Her 100 Cerdd #85: Antur y Tebot
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Antur y Tebot
Ar gyfer Cwmni Tebot, wrth gwrs!
Dwi’n amau ‘mod i bellach
yn dechrau colli’r plot,
‘lly dyma godi, gyda’r bwriad,
o chwilio’n frwd am debot.
Un, dau, tri, ffwrdd â fi!
â’m calon llawn her y daith
o ffeindio tebot neith gadw ‘mhaned
yn gynnes am amser maith.
Dwi’n mentro lawr y grisiau,
dwy’r coridorau draw i’r sinc,
a gwn ym mêr fy esgyrn
na fyddwn ond yn gorfod blinc…
…ac yn wir, ar y silff uwch fy mhen,
dyna nhw! Tebotiaid lu!
Yn aros yn grwn a’n sgleiniog
i ddal paned ar fy nghyfer i
– Beth Celyn, 8.02am
