Dewislen
English
Cysylltwch

Plethu/Weave: Krystal Lowe ac Alex Wharton

Cyhoeddwyd Iau 11 Maw 2021 - Gan Krystal Lowe
Plethu/Weave: Krystal Lowe ac Alex Wharton

Yn ddiweddar, fe rannodd Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ffilm ddiweddaraf cyfres Plethu/Weave. Cywaith rhwng y bardd Alex Wharton a’r ymarferydd dawns Krystal Lowe oedd Pethau Gwell i Ddod.

Ysgrifennodd Krystal gyfres o flogiau am y broses o greu pethau da i ddod ar ei blog. Maent yn fewnwelediad gwych i sut y bu i’r ddau gydweithio trwy gydol y broses greadigol, ac rydym wir yn eich annog i’w darllen nhw.

Dyma rai dyfyniadau:

Y peth mwyaf hardd am y comisiwn hwn yw, er bod themâu penodol – gofalu am yr amgylchedd, natur, a chynaliadwyedd – mae cymaint o le i archwilio sut fydd y themâu hynny’n cael eu harchwilio a’u cyflwyno drwy ein ffilm sydd wedi ei chreu ar y cyd.

notes written on lined paper from the first meeting between poet and artist Roeddwn hefyd yn medru cael drafft a recordiad llais o’r gerdd gan Alex. Roedd yn arbennig clywed sut y daeth â phopeth at ei gilydd, ac roedd yn ysbrydoliaeth wirioneddol ar gyfer fy ngweledigaeth ar gyfer awyrgylch cyffredinol y ffilm.

Mae’n ysgrifennu gyda pharch amlwg a chalon dros natur sy’n ymddangos yn y themâu cyson o ofalu am natur drwy gydol ei waith.

Rwyf wrth fy modd â llenyddiaeth ac rwyf wrth fy modd gyda dawns – mae plethu’r ddau beth yma ynghyd yn hyfryd ac yn bleser ni fydd gen i fyth y geiriau i’w ddisgrifio.

I mi, pan rwy’n meddwl am greu darn, yn gyntaf oll, rwy’n ystyried beth fyddaf yn ei wisgo a sut fydd hynny’n dylanwadu ar fy symudiadau a sut fyddaf yn rhyngweithio gyda’r ardal o fy nghwmpas.

Mae’r broses greu gydag Emma-Jane o hyd yn gyffrous, archwiliadol a chydweithredol…

Rydym yn archwilio lliw ffabrig naturiol, uwchgylchu dillad, a ffyrdd o ganiatáu i’r wisg efelychu natur gyda dyluniadau a deunyddiau sy’n llawn gweadau.

sketch of green coat with embroidered flowers

Rwy’n gobeithio y bydd y ffilm hon yn eich llenwi ag awydd ysgubol i ddod o hyd i fannau gwyrdd sydd o’ch cwmpas ac i ddawnsio ynddynt – i ddawnsio gyda nhw.

Mae natur yn ein galw – i symud.

Ystum y canghennau moel; plymiad yr adar bach; sŵn pawennau’n rhedeg;

Dyma alwad y nentydd tawel a’r gwyntoedd nad ydym yn eu gweld –

Dyma fywyd ei hun

Yn anadlu i mewn ac allan o bob coeden dan orchudd mwsogl a gwinwydd troellog.

Mae natur yn ein galw i symud

Uncategorized @cy