Nodwch bod y dyddiad cau ar gyfer ein Cwrs Egin Awduron 2023 bellach wedi pasio.
I wneud cais, darllenwch y Galwad Agored i awduron, y Cwestiynau Cyffredin, a llenwch y ffurflen gais hon erbyn 5.00 pm ddydd Mercher 11 Ionawr 2023. Rydym yn benodol groesawu ceisiadau gan awduron o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Gellir lawrlwytho ffurflen Dyslecsia gyfeillgar, a fersiynau print bras o’r Cwestiynau Cyffredin a’r Ffurflen Gais yma.
Fel rhan o’r cais, rydym yn gofyn am sampl o hyd at 2,000 o eiriau o’ch gwaith ffeithiol greadigol gwreiddiol, ar y thema Cymru, Cymreictod a/neu Hunaniaeth. Mae ffenestr ymgeisio o 8 wythnos er mwyn eich caniatáu i ysgrifennu rhywbeth newydd, neu i hogi darn ar y gweill ar gyfer eich cais.
Am ragor o wybodaeth, neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru.