Alex Wharton yn ysbrydoli tadau yng Ngharchar EF Parc

Dros dridiau, bu Alex yn gweithio gyda thadau i gynhyrchu cyfres o gerddi i fynegi cariad at eu plant, y pethau bach maen nhw’n eu colli amdanyn nhw a’u gobeithion am ddyfodol eu plant. Ysgrifennodd nifer o’r tadau gerddi naratif i blant hefyd, yn debyg i straeon Julia Donaldson a gwaith Alex o’i gyfrol, Daydreams and Jellybeans. Arweiniodd ac anogodd Alex y tadau i ysgrifennu cerddi llythyr o safbwynt cymeriadau direidus, wedi ysbrydoli gan gymeriadau Daydreams and Jellybeans i lythyrau gan eu hanifeiliaid anwes, wedi’u cyfeirio at eu plant. Crëwyd ymdeimlad chwareus – cyfle i’w plant a’u teulu eu gweld mewn golau gwahanol. Roedd cyflwyno’r cerddi llythyr hyn yr un mor bwysig â’r broses o’u hysgrifennu.
“Roedd y tadau’n cydnabod bod y sesiwn hon yn fuddiol ar gyfer darllen i’w plant cyn mynd i’r gwely. Dysgon nhw sut i wneud yr iaith yn fwy difyr i bawb; ffactor pwysig wrth annog plant i ddarllen er mwyn pleser.”
– Alex Wharton
Ar y diwrnod olaf, gwahoddwyd plant y dynion i fynychu digwyddiad dathlu yn yr Uned Deulu. Gydag anogaeth Alex, darllenodd y dynion eu cerddi i’w teuluoedd o’r llwyfan. Roedd hyn yn cynnwys tad o Gwrdistan, a ddarllenodd ei gerddi yn yr iaith Gwrdaidd ac yn Saesneg.
“Wna i fyth anghofio’r llawenydd pur a’r syndod ar wynebau’r plant. Roeddent wedi’u syfrdanu o weld eu tadau’n siarad yn gyhoeddus ac wedi’u plesio’n fawr ag ansawdd y cerddi.”
– Hayley Morris, Uwch Reolwr Plant, Teuluoedd a Pherthnasoedd yng Ngharchar EM Parc.
Roedd y digwyddiad yn brofiad llawen i bawb ac yn atgoffwr o bŵer creadigrwydd a llenyddiaeth i gyfoethogi bywydau pobl.
“Roedd yn galonogol gweld yr ymgysylltiad a’r llawenydd y mae llenyddiaeth yn ei gynnig. Roedd yr ymweliad hwn yn dyst cryf o ddylanwad pwerus mynegiant creadigol.”
– Hayley Morris, Uwch Reolwr Plant, Teuluoedd a Pherthnasoedd yng Ngharchar Parc
Bydd Alex yn ysgrifennu cerdd gomisiwn am fod yn dad a’i brofiad o weithio gyda’r dynion yn Uned Teulu CEM Parc; profiad a fydd yn aros gydag ef am amser hir.
“Mae’r prosiect hwn wedi cryfhau fwy fyth fy nghred ym manteision ysgrifennu a darllen, ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cwrdd a gweithio gyda’r dynion mewn ffordd mor bersonol a thrawsnewidiol.”
– Alex Wharton
Alex yw Children’s Laureate Wales 2023-2025. Ers ei sefydlu yn 2019, caiff y rôl ei gwobrwyo pob dwy flynedd i awdur o Gymru sydd yn angerddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth. Dewch i wybod rhagor am Alex Wharton a phrosiect Children’s laureate Wales ar wefan Llenyddiaeth Cymru: Children’s Laureate Wales