Dewislen
English
Cysylltwch
Galluogi mwy o bobl yng Nghymru i fwynhau a chymryd rhan mewn llenyddiaeth, gan ysbrydoli cymunedau a’i gwneud hi’n haws i bobl ymwneud â’n gwaith

Gall cymryd rhan mewn llenyddiaeth olygu sawl peth. Gall olygu darllen neu wrando ar straeon, ysgrifennu’n greadigol, cyfrannu at weithdai, neu fwynhau ymweliadau gan awduron mewn ysgolion, cymunedau a gwyliau. Mae’n rhan ganolog o ddiwylliant Cymru, a chyn pandemig COVID-19 roedd dros 150 o grwpiau llenyddol lleol yng Nghymru yn cynnal gweithdai a digwyddiadau yn eu cymunedau ym mhob cwr o’r wlad. 

Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i gymryd rhan mewn llenyddiaeth ac i’w mwynhau yn ei holl ffurfiau, a byddwn ni’n gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i bobl ledled y wlad allu gwneud hynny.  

 

Sut y byddwn ni’n cyflawni? 

Cymorth ariannol: 

Bydd ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yn cynnig cyfraniadau ariannol tuag at ddigwyddiadau llenyddol, gan ganolbwyntio ar gefnogi gweithgareddau sydd naill ai’n newydd neu’n targedu awduron a chynulleidfaoedd sy’n cael eu tangynrychioli. Byddwn ni’n annog trefnwyr i weithio gan ddilyn ein tair blaenoriaeth. 

Gweithio mewn partneriaeth: 

Byddwn ni’n ei gwneud hi’n haws i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol drwy weithio gyda phartneriaid, yn aml o’r tu allan i’r sector celfyddydau, i gefnogi a datblygu prosiectau milltir sgwâr mewn cymunedau ac ysgolion. Y nod fydd canolbwyntio ar y grwpiau a fydd yn elwa fwyaf o’r ymyriadau.  

Creu cymuned o hwyluswyr medrus: 

Byddwn ni’n buddsoddi ymhellach mewn cyfleoedd hyfforddi i awduron i roi’r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw weithio gyda grwpiau ac unigolion, gan gynnwys pobl sydd ag anghenion cymhleth a heriol. O gartrefi gofal i garchardai, o ysgolion i gaffis, o neuaddau pentref i ganolfannau siopau, byddwn ni’n cefnogi pobl sy’n cyfansoddi barddoniaeth, yn cofnodi atgofion, yn creu comics, yn adrodd straeon yn ddigidol, neu’n rhannu profiadau bywyd mewn ffordd greadigol, a’r cyfan wedi’i hwyluso gan awduron medrus sydd â phrofiadau perthnasol.  

Enghraifft: Gwella Iechyd a Llesiant drwy Gyfranogi

Bydd y Gronfa Ysbrydoli Cymunedau yn canolbwyntio ar gefnogi digwyddiadau llenyddol sy’n gwella iechyd a llesiant unigolion a chymunedau, ac yn enwedig y rheini sy’n wynebu unigrwydd ac ynysigrwydd.

Byddwn ni’n rhoi cyfleoedd i bobl fynegi a rhoi llais i’w hemosiynau drwy eiriau a chysylltu â’i gilydd drwy rannu straeon a syniadau, fel ein rhaglen Darn wrth Ddarn, sy’n rhan o brosiect Bridging the Gap mewn partneriaeth â Mind Casnewydd.

Nôl i Ein Nodau