Dewislen
English
Cysylltwch

Bu perthynas ers tro byd yng Nghymru rhwng cymunedau a geiriau – o eisteddfodau lleol i ddigwyddiadau sy’n coffáu cewri llenyddol fel Roald Dahl, Hedd Wyn, Kate Roberts a Raymond Williams. Bydd digwyddiadau llenyddol mewn pentrefi a threfi yn dod â chenedlaethau ynghyd, yn lleddfu unigrwydd, ac yn creu cymunedau mwy cysylltiedig.  

Ynghyd â bod yn rhan o’r cymunedau sydd ar garreg ein drws yn Llanystumdwy a Bae Caerdydd, byddwn ni’n cefnogi cymunedau ym mhob rhan o Gymru drwy ein Cronfa Ysbrydoli Cymunedau. Wrth weithio mewn cymunedau, byddwn ni’n rhoi lle canolog i’r argyfwng hinsawdd, manteision llenyddiaeth i iechyd a llesiant, a chynrychiolaeth a chydraddoldeb. Bydd hynny’n sicrhau bod ein gwerthoedd yn amlwg mewn digwyddiadau cymunedol er mwyn helpu i ddatblygu Cymru lle mae’i diwylliant llenyddol yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau.   

Byddwn ni’n gwrando’n astud ar gymunedau llenyddol y filltir sgwâr yng Nghymru, ac yn ymgynghori â nhw er mwyn datblygu ein gweithgareddau a’n strategaeth. Byddwn ni’n defnyddio ein braint fel cwmni cenedlaethol mewn ffordd gyfrifol, drwy rannu arbenigedd ac adnoddau â grwpiau lleol, a’u grymuso nhw i wasanaethu’r cymunedau maen nhw’n eu hadnabod yn well na ni.  

Nôl i Gyda phwy rydyn ni’n gweithio?