Dewislen
English
Cysylltwch

Gall llenyddiaeth, yn ei holl amrywiaeth, fod â’r grym i gysylltu cymunedau a rhoi cysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rhai sydd wir angen hynny.

Mae nifer o fanteision yn deillio o gymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol. Mae’r rhain yn amrywio o fuddiannau bychain ond arwyddocaol i’r unigolyn, i newidiadau mawr i’n henw da yn rhyngwladol.

Yn ein gwaith rydym wedi gweld unigolion o bob oed yn cynyddu eu sgiliau a’u hyder, herio eu barn, prosesu pryderon, a mynegi eu gobeithion.  Rydyn ni wedi gweld y rhai sydd wedi eu hanghofio yn y gorffennol yn cael eu hysbrydoli i ysgrifennu eu dyfodol eu hunain.

Rydym wedi gweld llenyddiaeth yn rhoi Cymru ar lwyfan y byd, lle mae wedi cyflwyno ein diwylliannau a’n hieithoedd i gynulleidfaoedd helaeth.

Darllenwch ragor ar ein tudalen Ein Heffaith.

Nôl i Cynllun Strategol – Prif Dudalen