Mae Cyfandir o Gofio yn gerdd fideo gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, i gofio y rhai a gollwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar hyd cyfandir Ewrop. Y mae Ifor ap Glyn wedi plethu cerddi gan Gerrit Engelke o’r Almaen, Albert-Paul Granier o Ffrainc ac August van Cauwelaert o Fflandrys i ddarlunio galar cyfandir Ewrop a gwastraff a thrasiedi rhyfel.
Comisiynwyd y gerdd fideo hon gan Llenyddiaeth Cymru gyda nawdd gan Raglen Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.
Noder os gwelwch yn dda: Mae’r gerdd-fideo hon yn cynnwys rhai delweddau sensitif
‘Cymuno’ gan Ifor ap Glyn
Cymuno
Comisiynwyd gan BBC Cymru Fyw
(wedi Cadoediad 1918)
Pan ddaw’r dynion yn ôl at Soar a Salem,
nid yr un dynion mohonynt.
Er llonyddu’n gefnsyth ar y seti sglein,
mae’r sŵn yn eu pennau o hyd;
oglau’r polish yn edliw’r drewdod
fu yn eu ffroenau gyhŷd;
drychiolaethau wedi’u serio ar eu llygaid;
a’r “ddwy law sy’n erfyn” heddiw
yw’r ddwy law fu’n llwytho cyfaill ddoe,
ar flaen rhaw, i waelod sach.
Mae sawl lle gwag yma heno
ac mae’r dynion yn rhannu seti
hefo’r rhai na fu draw – heb fedru ‘rhannu’ chwaith…
Maen nhw fel bara a gwin…
A’r merched a ddaw i Soar a Salem?
Nid yr un merched mohonyn nhwthau mwy,
wedi mynd o iau’r cartref
at her y lle gwaith;
wedi byw’r ansicrwydd creulon o hir,
cyn i lythyr estron dynnu tafod drwy’r drws
a disgyn yn gelain i’r mat.
Mae sawl aelwyd wag yn eu canlyn nhw ‘ma heno;
sawl rhuban o ohebiaeth wedi’i chlymu’n dwt mewn drôr;
sawl sgwrs ffug-siriol wedi darfod ar ei hanner…
Ond daw pobun a’i greithiau gwahanol o’r drin
i geisio rhyw ystyr, drwy’r bara a’r gwin…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
(Gallwch ddarllen cyfieithiad Saesneg o’r gerdd hon yma)
Gwybodaeth am Ifor ap Glyn
Wedi’i eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, mae Ifor ap Glyn yn fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau yn y meysydd amrywiol hyn. Mae’n Brifardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – y tro cyntaf yn 1999 ac yn fwyaf diweddar yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013. Ifor oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2008 – 2009. Ifor yw Bardd Cenedlaethol Cymru.
Mae Ifor yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio i Cwmni Da – cwmni cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol y bu’n rhan o’i sefydlu. Mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys y cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg.