Dewislen
English
Cysylltwch
Arwyr

(dyma gyfieithiad Ifor ap Glyn o’r gerdd wreiddiol, Heroes, gan Eric Ngalle Charles. Mae’r gwreiddiol, yn Saesneg, ar gael isod)

er cof am Ellis H. Evans (1887-1917), y bugeilfardd Hedd Wyn

Amser maith yn ôl,
a hynny cyn fy  ngeni,

adroddwyd hanes brenin mawr

o’r enw Kuva Likenye.

Gyda dagrau yn ei lygaid,
ymbiliodd Kuva ar ysbrydion ei hynafiaid
fe glywson nhwthau ei lais,
ei alarnadu,
a daethant ato dan ganu:

“Mae’r djembe’n diasbedain
a’r gong rhyfel yn atseinio
yn datgan argoelion drwg.

Blant Rhyfel, ystyriwch ei neges,
mae amser ymladd wedi dod,                                                                                             

cyfarfyddwn yn ymyl y ffin”

Gyda’r ysbrydion, fe gododd Kuva fur, neu kortoh;
tu draw i’r kortoh,
chwyrnai peiriant rhyfel yr Almaen.

 

Amser maith yn ôl,
cyn i awel y bore gusanu ‘ngwyneb,
ymladdwyd rhyfel mewn gwlad bell.
Ac yr oedd, (chwedl Owen), yn,

“dywyll drwy’r cwareli niwlog
a’r golau trwchus  gwyrdd
megis islaw môr o wyrdd”
Ac yn enw’r “old lie”
yn eu miloedd buont farw .

A Hedd Wyn a aeth,
ar siwrnai ddi-droi-nôl.

 

Tu hwnt i’r gorwel,
crynai bechgyn
a merched ifainc,
rhag yr hyn allai ddod
o ochr draw’r mur.

Roedd mamau mewn sachliain
yn symud wysg eu cefnau

gan godi casys bwledi gwag.

Yn y frwydr hon,
yn y Rhyfel Mawr hwn,
dim ond cynrhon sydd ar eu hennill.

 

Amser maith yn ôl,
adroddwyd chwedlau am filwyr meirw
a gladdwyd mewn gwledydd pellennig
a’u heneidiau ar dramp,
yn crefu am un daith olaf adre;
bu Hedd Wyn yno,
ar goll.

Cafwyd hyd iddynt gyda’r wawr, yn farw,
eu cyrff ar wasgar yma ac acw,
a thyllau yn eu helmedau;

un milwr, â’i lygaid ar agor,
fel petai’n olrhain ei angau ei hun –
roedd llythyr yn ei law dde.

Eric Ngalle Charles

Cyfieithiad gan Ifor ap Glyn


Heroes:

For Ellis H. Evans 1887-1917 The Shepherd war poet Hedd Wynn

Many Moons ago
before I was born
a story was told of a great king
called Kuva Likenye

With tears in his eyes,
Kuva invoked ancient spirits
they heard his voice,
his lamentations,
they came singing.

‘’Djembe Kumbi
Eezrewa Etongi
Etongi Ndi Mawongor

Wanna Wa Njuma Ezraweya
Evonda ya Njuma emuka
Ja’ataneya ndo Mavanni’’.

With the spirits, Kuva built a wall, a kortoh,
outside the Kortoh,
German war machine raged.

 

Many moons ago
before morning breeze greeted my face,
a war was fought in a distant land.
It was, as Owen said,

‘’Dim through the misty panes,
and thick green light.
As under a green sea’’,
’That old lie’’,
in droves they died.

Hedd Wyn went,
a journey of no return.

 

Beyond the horizon
young boys
young girls’,
quake in their boots
of what might or might not come
from behind the wall.

Mothers dressed in sackcloth
pciking empty bullets shells,
in reverse.

In this fight,
in this great war,
only the maggots win.

 

Many moons ago
tales were told of soldiers –
dead and buried in distant lands
souls roaming
craving for one last journey home,
Hedd Wyn was there,

lost.

They found them dead at dawn,
bodies littered here and there
holes on their helmets

one soldier, eyes open,
as if following the path of his death,
In his right hand was a note.

 

NB: ‘‘Djembe Kumbi
Eezrewa Etongi
Etongi Ndi Mawongor

Wanna Wa Njuma Ezraweya
Evonda ya Njuma emuka
Ja’ataneya ndo Mavanni’’.

(The djembe is playing loud
the Ezrewa (war gong) sounds
it speaks of ill winds, danger

Children of War heed the message
the time for war is here
let us meet at the border crossing)

Kortoh: A protective wall built by Kuva Likenye the mountain King who mobilised the Bakweri people to resist the German penetration of Buea in 1891


Gwybodaeth am Eric Ngalle Charles

Mae Eric Ngalle Charles yn fardd, dramodydd ac awdur, yn wreiddiol o Buea yng Nghamerŵn. Y mae’n rhedeg Black Entertainment Wales, sefydliad celfyddydol sydd yn cynnig llwyfan i artistiaid o gymunedau BME i arddangos eu gwaith. Yn ei waith, mae’n ymchwilio’r cysylltiad rhwng llenyddiaeth a thrawma er mwyn edrych ar sut mae creadigrwydd yn gallu cael ei ddefnyddio fel modd o oresgyn trawma.

Nôl i Cerddi Comisiwn