Dewislen
English
Cysylltwch

Ai dros hyn?

(dyma gyfieithiad gan Menna Elfyn o’r gerdd wreiddiol. Gellir darllen y Saesneg isod)

 

‘ai dros hyn y bu i’r clai dyfu’  Futility

‘Fy nhestun yw Rhyfel a thosturi rhyfel – yn y tosturi y mae’r farddoniaeth’

Wilfred Owen

 

Hanes oedd rhyfel. Unwaith. Man nodedig –

Catraeth, Cilmeri, Bosworth, Cae Flodden –

gwŷr dienw’n gorwedd. Di-gariad neu’n gariadau;

eu crioedd am adref, mwd wedi eu mygu, cysegrwyd

gan feddau ynghudd dan ganrifoedd o wair.

 

Canrif. Y rhyfel i roi taw ar bob rhyfel,

galarnadau o enwau: Ypres, y Somme,

Camlas Sambre-Ouse, a’r tŷ yn Ors

lle lluniodd Owen ei lythyr dewr olaf

adref. Eto ei lais dreiddia o hyd

drwy ddichell cadau  gan ddior distawrwydd

‘ y gerdd a’i chur yw’r tosturi’.

 

Canrif. Amser i’w cofio

wrth golofnau pentrefi ac ing mewn maen.

a’n henwau ni arnynt, enwau cyd-nabod,

gwŷr a aned yn ein trefi, bwthyn ar y bryn,

y fferm ochr draw’r cwm. Yno, y trigant

hyd byth, er dan bridd daear gwlad arall.

 

Rhyfel heddiw, anadl – gwenwyn, sgrechfeydd awyr,

heb amser i ganu’n iach nac estyn sws.

Drylliedig yw’r hen, y bregus a’r ifanc;

y plentyn a gariwyd o’r môr. Dinas yn sarn.

Gaza. Helmund. Aleppo. Homs

‘Ai dros hyn y bu…?’

Gan Gillian Clarke

                                   Cyfieithiad Cymraeg gan Menna Elfyn

 


Was it for this?

‘Was it for this the clay grew tall?’ Futility

‘My subject is War and the pity of War – the poetry is in the pity.’

Wilfred Owen

 

Once war was history, a famous place –

Catraeth, Cilmeri, Bosworth, Flodden Field –

where men fell nameless, loved or loveless,

crying for home, mud-suffocated, hallowed

by the last rites of rain, a shroud of snow,

graves overgrown by centuries of grass.

 

A hundred years. The war to end all wars:

a lamentation of names: Ypres, the Somme,

the Sambre-Ouse Canal, the house at Ors

where Owen wrote his brave last letter home.

His voice still sounds through war’s duplicity,

refusing silence: “the poetry is in the pity”.

 

A hundred years. Time to remember them.

On village monuments their deaths are stone.

They bore our names, or names we know,

men born in our towns, a house on the hill,

the farm across the valley – they live there still –

yet they became the earth of somewhere else.

 

Now war is poisoned air, the screaming sky.

No time for glimmering goodbyes. No kiss.

The fallen are the old, the weak, the young,

the child brought from the sea, a city bombed.

Gaza. Helmand. Aleppo. Homs.

‘Was it for this..?’

Gillian Clarke

                                  


Gwybodaeth am Gillian Clarke

Gillian Clarke oedd Bardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2016. Ganwyd Gillian yng Nghaerdydd ac mae bellach yn byw yn Nhalgarreg, Ceredigion. Mae ei gwaith wedi ymddangos ar faes llafur TGAU a Lefel A am dros 30 mlynedd. Derbyniodd fedal aur y Frenhines ar gyfer Barddoniaeth yn 2010, a Gwobr Wilfred Owen yn 2012. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y radio a’r theatr, ac wedi cyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith o’r Gymraeg. Cyhoeddwyd ei chyfrol Selected Poems (Picador) yn 2016, a Zoology (Carcanet) yn 2017. Cyhoeddir ei fersiwn hi o Y Gododdin gan Faber yn 2019.

Nôl i Cerddi Comisiwn