Edward Thomas: Ddoe a Heddiw
Gydag Ysgol Uwchradd Fitzalan, dan arweiniad Jafar Iqbal, mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
Roedd Edward Thomas eisoes yn feirniad llenyddol uchel eu barch cyn dyfod hefyd yn un o feirdd rhyfel mwyaf clodwiw ei genhedlaeth. Ysgrifennai’n delynegol am bynciau megis gwrthdaro, iselder a natur, ond ni chafodd gyfle i brofi’n llwyddiant hwn gan iddo farw’n ifanc.
Gan ddefnyddio archifau a gedwir ym Mhrifysgol Caerdydd, bu’r beirniad Jafar Iqbal a myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Fitzalan yn archwilio bywyd a gwaith Thomas cyn cymharu â gweithiau artistiaid megis Johnny Cash, Cat Stevens, U2 a OneRepublic, ac ysgrifennu eu herthyglau eu hunain am eu gwaith.
Bu’r disgyblion yn cyflwyno rhai o’r gweithiau a grëwyd yn y gweithdy yn nigwyddiad Estyn yn Ddistaw.
Mae Jafar Iqbal yn feirniad celfyddydol ac yn Olygydd Cysylltiol gyda Wales Arts Review. Mae wedi cyfrannu at gyhoeddiadau megis The Stage a Whats On Stage. Er ei fod yn arbenigo mewn beirniadaeth theatr, mae wedi ysgrifennu erthyglau ar ffurfiau eraill megis cerddoriaeth, llenyddiaeth, a beirniadaethau ar dirwedd celfyddydol Cymru yn gyffredinol. Mae Jafar wedi bod yn aelod o baneli trafod ar gyfer y BBC a Gŵyl Lyfrau Caerdydd, ac wedi cynnal gweithdai ar ran y National Theatre a Wales Arts Review. Mae hefyd yn awdur a pherfformiwr proffesiynol.
Casgliadau ac Archifau Arbennig Prifysgol Caerdydd: Ysgrifennodd Edward Thomas, y bardd a’r beirniad, yn onest iawn am ei brofiad o ryfel – gan siarad yn agored iawn am iechyd meddwl a gwrywdod. Cedwir ei waith a’i lythyrau yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd, sydd ar agor i bawb.
Yn ogystal ag archif Edward Thomas, mae ACAPC yn gartref i archifau personol nifer o ffigyrau llenyddol, llyfrau prin a chasgliadau helaeth o ddeunydd sy’n ymwneud â hanes a diwylliant Cymru.
Archwilio Rhyfel a Heddwch
gydag Ysgol Calon Cymru, dan arweiniad Rufus Mufasa ac Elan Grug Muse
Nod y cynllun hwn oedd archwilio beth yw gwir ystyr rhyfel, sut y mae wedi newid a gofyn a fyddwn ni byth yn gweld heddwch?
Gan archwilio Y Gododdin a Canu Heledd, a thestunau mewn ffurfiau amrywiol, cafodd y disgyblion gyfle i edrych ar y berthynas rhwng celf a gwrthdaro.
Yn ystod digwyddiad Estyn yn Ddistaw, bu’r disgyblion yn arddangos eu gwaith mewn perfformiad amlffurf oedd yn cyfleu safbwyntiau cyfoes o’r sefyllfa bresennol gan y bobl bwysicaf oll – ein hieuenctid.
Mae’r actifydd llenyddol Rufus Mufasa yn artist cyfranogi arloesol sy’n hyrwyddo addysg hip-hop a datblygiadau barddonol sy’n hygyrch i bawb. Fel awdur caneuon, rapiwr a pherfformiwr, gydag MA mewn sgriptio, fe gyhoeddodd Rufus albwm yn ddiweddar o’r enw Fur Coats from the Lion’s Den, a ystyrir yn uchafbwynt diwylliannol gan feirniaid yng Nghymru a thu hwnt.
Daw Elan Grug Muse yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, ond mae hi ar hyn o bryd yn fyfyrwraig PhD yn adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe. Mae hi’n ymchwilio i lenyddiaeth deithio Gymraeg wedi sgwennu am America Ladin, ac yn cael ei hariannu gan Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Astudiaethau Celtaidd yr AHRC.
Mae hi’n fardd a llenor, a cyhoeddwyd cyfrol o’i gwaith – Ar Ddisberod – gan gyhoeddiadau Barddas yn 2017. Mae hi’n gyd-olygydd i gylchgrawn Y Stamp, ac yn un o aelodau diweddara Bragdy’r Beirdd Caerdydd. Mae ei hysgrifau a’i cherddi i’w gweld yn gyson mewn cyhoeddiadau fel O’r Pedwar Gwynt, Poetry Wales, Barddas, a Panorama.
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol uwchradd dwy ffrwd gyda champws yn Llanfair-ym-Muallt ac yn Llandrindod. Agorodd yr ysgol ei drysau am y tro cyntaf ym mis Medi 2018.