Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau newydd ar gyfer Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2023, eu cyfle datblygiad proffesiynol i awduron o Gymru, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi pasio.

Bydd y cyfle datblygu proffesiynol hwn i awduron o Gymru yn digwydd yn ystod Gŵyl y Gelli (24 Mai – 4 Mehefin) o ddydd Sadwrn 27 Mai i ddydd Sadwrn 3 Mehefin 2023 (cyrraedd ddydd Gwener 26, gadael dydd Sul 4). Bydd y rhaglen wythnos o hyd, fydd wedi ei churadu a’i harwain gan Tiffany Murray, yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fynychu dosbarthiadau meistr, gweithdai ac i rwydweithio gydag awduron, cyhoeddwyr, asiantaethau ac aelodau o’r wasg o Gymru, y DU a thu hwnt.

Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau gan feirdd, awduron ffuglen (pob genre) ac awduron ffeithiol-greadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd awduron cymwys yn awduron o Gymru (wedi eu geni, eu haddysgu neu yn byw ar hyn o bryd yng Nghymru) sy’n dangos ymrwymiad clir tuag at ddatblygiad proffesiynol gan ddangos tystiolaeth o gyhoeddi, waeth pa mor fychan, mewn print neu ar-lein. Gall gyfranogwyr fod yn awduron sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd llenyddol neu yn awduron canol-gyrfa sydd angen cefnogaeth i gyrraedd cam nesaf eu gyrfaoedd.

Nid oes cyfyngiad oedran, tu hwnt i’r lleiafswm oed o 18, ac y mae 10 lle ar gael.

Bydd yr ymgynulliad unigryw hwn o’r diwydiant llenyddol a chyhoeddi yng Ngŵyl y Gelli yn galluogi’r awduron llwyddiannus i fagu hyder, sgiliau ac i ffurfio rhwydweithiau gyda’u cyfoedion, gan adael y rhaglen wedi eu hysbrydoli i greu gweithiau newydd ac i gyflawni eu hamcanion personol. Rydym hefyd yn gobeithio gweld rhwydweithiau newydd yn cael eu creu fydd yn elwa awduron o Gymru wrth lywio eu ffordd drwy’r diwydiant cyhoeddi yn yr oes ddigidol. Mae gan brosiect Awduron wrth eu Gwaith hanes cryf o gefnogi, datblygu a meithrin talent llenyddol newydd yng Nghymru.

Bydd rhaglen Awduron wrth eu Gwaith yn cael ei darparu yn rhad ac am ddim ar gyfer y 10 awdur llwyddiannus. Bydd Ysgoloriaeth Awduron wrth eu Gwaith yn talu am lety, teithio o fewn Cymru a chynhaliaeth yn ystod yr ŵyl. Mae safle’r Ŵyl yn gwbl hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae dolenni anwythol (induction loops) ar gael ym mhob lleoliad perfformio. Caniateir cŵn tywys. Gŵyl y Gelli fydd yn trefnu’r llety, ond bydd angen i gyfranogwyr ofalu am eu trefniadau teithio eu hunain; a bydd y costau hyn yn cael eu had-dalu.

 

Cyflwyno eich cais

 

TELERAU AC AMODAU:
Nod yr wythnos yw ehangu creadigrwydd, ehangu allbwn, a ffurfio rhwydwaith gefnogol o gyfoedion a chysylltiadau llenyddol a chyhoeddi. Er mwyn cymryd rhan y rhaglen hon rhaid i awduron aros yn y Gelli Gandryll o ddydd Gwener 26 Mai (cyrraedd yn y prynhawn) ar gyfer cychwyn ar y gweithdai ar fore Sadwrn 27 Mai hyd nes ddydd Sul 4 Mehefin 2023 (bydd y gweithdai yn dod i ben ddydd Sadwrn 3 Mehefin). Rhaid i chi ymrwymo’n llawn i’r rhaglen gyfan i wneud cais. Bydd y rhan fwyaf o’r gweithdai’n dechrau am 10.00 am yn ddyddiol. Bydd disgwyl i bob awdur gwblhau gwerthusiad llawn a manwl o’r wythnos ac ysgrifennu ar gyfer blog Gŵyl y Gelli yn ystod wythnos yr Ŵyl.

Ar ôl darllen y Cwestiynau Cyffredin, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â: writers@hayfestival.org

 

Nôl i Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli