Dewislen
English
Cysylltwch

Penodwyd Ifor ap Glyn yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn 2016.

Yn ystod ei gyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru mae Ifor wedi bod yn lysgennad diwylliannol i Gymru a’i llenyddiaeth, ac mae’r rôl wedi galluogi iddo deithio’r byd. Mae ei farddoniaeth wedi ymddangos ar drafnidiaeth gyhoeddus ym Mrwsel a’i daflunio ar ochr Big Ben. Mae wedi ei gomisiynu i lunio cerddi a rhyddiaith i nodi achlysuron niferus yn ystod ei gyfnod yn y rôl, gan gynnwys nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan; Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO 2019; 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru; heb sôn am nifer o achosion cymdeithasol, penblwyddi arbennig ac uchelfannau’r tîm pêl-droed cenedlaethol.

Mae Ifor wedi cyfrannu’n helaeth i nifer o brosiectau ledled Cymru ac yn rhyngwladol, gan eirioli dros bŵer llenyddiaeth i wella bywydau. Mae’r rhain yn cynnwys Cofi Armi, Ffrindiau Darllen, Estyn yn Ddistaw, Hen Wlad fy Nhadau, a Cofio’r Cau.

“Rydyn ni’n wlad lle mae geiriau a thelynegiaeth yn mynd law yn llaw ac mae rôl Bardd Cenedlaethol Cymru yn dyst i’r pwysigrwydd rydyn ni’n ei roi ar iaith. Boed ar y dudalen neu ar y llwyfan, bu Ifor ap Glyn yn ein gwefreiddio a’n hysbrydoli drwy ei rôl, ond hefyd yn ymateb i’r byd o’n cwmpas a’i adlewyrchu, gan ein helpu i wneud synnwyr ohono.”

– Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

Am Ifor ap Glyn:

Wedi’i eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, mae Ifor ap Glyn yn fardd, cyflwynydd, cyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd sydd wedi ennill nifer helaeth o wobrau yn y meysydd amrywiol hyn. Mae’n Brifardd sydd wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – y tro cyntaf yn 1999 ac yn fwyaf diweddar yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2013. Ifor oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2008 – 2009.

Mae Ifor yn byw yng Nghaernarfon ac yn gweithio i Cwmni Da – cwmni cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol y bu’n rhan o’i sefydlu. Mae wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith gan gynnwys y cyfresi Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg.

“Dros y tair blynedd ddiwethaf mae wedi bod yn fraint cael ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau yn y calendr cenedlaethol, yn llon ac yn lleddf, gan geisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ystod y tair blynedd nesaf, dwi’n edrych ymlaen at yr her o ddatblygu ymhellach rhai o’r partneriaethau sydd wedi cychwyn yn barod, a hyrwyddo dwy lenyddiaeth ein gwlad gorau fedra’i!”

– Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn

 

 

Nôl i Bardd Cenedlaethol Cymru