Dewislen
English
Cysylltwch

Dyma Gymru Newydd

O Ddydd Llun Mawrth 21, daeth cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Er mwyn nodi’r newid hanesyddol hwn i blant a’u hawliau yng Nghymru, comisiynwyd Bardd Plant Cymru, Casi Wyn i lunio cerdd ar gyfer yr achos. Bwriad y gerdd yw dathlu hawliau plant, ac fe’i gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Barddoniaeth Rhyngwladol UNESCO. Gellir darllen mwy am y comisiwn yn fan hyn.

 

Dyma Gymru newydd,

lle bydd chwerthin ei phlant

yn gân o asbri

a phob un yn rhydd

i flasu’r heulwen.

 

Dyma Gymru newydd,

lle bydd ei choflaid

yn hafan

a’i hanadl ddofn

yn geni

hen dynerwch

fu gynt ynghwsg.

 

Dyma Gymru newydd,

lle bydd muriau creulondeb

yn dymchwel

a chariad

yn goresgyn.

 

Casi Wyn,
Bardd Plant Cymru 2021-23

 

Nôl i Cerddi Bardd Plant Cymru