Bardd Plant Cymru 2021-23
Bardd Plant Cymru 2023-2025 yw Nia Morais.
Dechreuodd Nia yn y rôl yn swyddogol ym mis Medi 2023, a gellir canfod mwy am Nia yn fan hyn.
Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol a gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd. Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.
Rheolir prosiect Bardd Plant Cymru gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Mae Bardd Plant Cymru’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc Cymru o bob oedran, ond mae’r mwyafrif o’r gweithgareddau yn targedu plant rhwng 5-13 oed.
Mae’r Bardd Plant yn cynnal gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gennym brosiect arall o’r enw y Chilldren’s Laureate Wales sydd yn gwneud gwaith tebyg iawn drwy gyfrwng y Saesneg.
Gweithio ar y cyd
Er mwyn holi am y posibilrwydd o drefnu Cerdd Gomisiwn gan Bardd Plant Cymru, cysylltwch gyda ni ar barddplant@llenyddiaethcymru.org
Rhai o flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru dros y tair blynedd nesaf fydd Cydraddoldeb a Chynrychiolaeth, yr Argyfwng Hinsawdd a Iechyd a Llesiant.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ar y cyd â Bardd Plant Cymru ar brosiect, yn enwedig os ydynt yn berthnasol i’r blaenoriaethau uchod, cysylltwch gyda ni ar barddplant@llenyddiaethcymru.org am sgwrs.