Dewislen
English
Cysylltwch

1. Trefnwch eich digwyddiad

Dyma dasg sy’n hwyl! Pan fydd gennych syniad clir o’r math o ddigwyddiad rydych am ei gynnal, bydd angen i chi gysylltu gydag awdur addas. Os ydych angen ysbrydoliaeth, porwch drwy ein Rhestr Awduron Cymru.  

Cyn cyflwyno cais, bydd angen i chi gadarnhau’r awdur mewn egwyddor, a chadarnhau amser a lleoliad eich digwyddiad, pwnc/thema’r digwyddiad, a thrafod ffi a chostau teithio yr awdur. A wnewch chi sicrhau bod y ffioedd a gynigir i bob awdur yn deg ac ystyriol, a bod eu costau teithio wedi eu hystyried yn ogystal. A wnewch chi gyfeirio at ein canllaw ar drefnu digwyddiadau cymunedol da am ragor o wybodaeth ar ffioedd a argymhellir.  

Rydym yn dymuno noddi digwyddiadau ble mae’r rhaglen yn gynhwysol ac yn gynrychioladol – gan sicrhau cydbwysedd o ran rhywedd, awduron o ystod o oedrannau, awduron Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, awduron sy’n byw gydag anableddau neu  sydd â chyflwr iechyd hirdymor, awduron o gefndir incwm isel ac awduron o’r gymuned LHDTC+ 

 

2. Cymhwystra

Sicrhewch fod eich digwyddiad a’ch sefydliad yn gymwys i wneud cais am gyllid o Gronfa Ysbrydoli Cymunedau, trwy ddarllen y Canllaw Cymhwystra.  Os nad ydych yn sicr bod eich digwyddiad yn gymwys, cysylltwch â ni.  

Mae Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yn gystadleuol iawn, ac ni fydd pob digwyddiad cymwys yn derbyn cynnig nawdd. Mae ein Cyngor i Drefnyddion Digwyddiadau yn nodi rhagor o fanylion ynglŷn â’r math o ddigwyddiadau sy’n flaenoriaeth i Llenyddiaeth Cymru, ac rydym yn eich annog i fanylu yn eich cais sut rydych yn cynnwys y blaenoriaethau hyn.  

 

3. Gwneud cais am nawdd

Mae’n rhaid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio’r ffurflenni ymgeisio arlein. Mae dwy ffurflen gais: 

Os rydych yn ymgeisio am nawdd ar gyfer gŵyl, sy’n cynnwys digwyddiadau ar gyfer oedolion a phlant/pobl ifanc, a wnewch chi ddefnyddio’r ffurflen ar gyfer y cyhoedd.  

A wnewch chi sicrhau bod gennych yr holl fanylion perthnasol wrth law cyn dechrau eich cais, gan na fydd yn bosib i arbed eich cais a dychwelyd ato yn hwyrach.  

Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni  os ydych angen cymorth i gwblhau’r ffurflen, neu gael mynediad at y ffurflen gais arlein. Er enghraifft, gallwn drefnu bod copi hygyrch yn cael ei anfon atoch chi.  

 

Amserlen dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau: 

Digwyddiadau yn ystod mis          Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:

Mai 2024                                           31 Mawrth 2024

Mehefin 2024                                   30 Ebrill 2024

Gorffennaf 2024                              31 Mai 2024

Awst 2024                                          30 Mehefin 2024

Medi 2024                                         31 Gorffennaf 2024

Hydref 2024                                      31 Awst 2024

Tachwedd 2024                               30 Medi 2024

Rhagfyr 2024                                    31 Hydref 2024

Ionawr 2025                                     30 Tachwedd 2024

Chwefror 2025                                 31 Rhagfyr 2024

Mawrth 2025                                    30 Ionawr 2025

 

4. Ymateb

Rydym yn asesu yr holl geisiadau mewn cyfarfod panel mewnol a byddwn yn ymateb a rhoi gwybod i chi os bydd eich cais yn llwyddiannus o fewn naw niwrnod gwaith I’r dyddiad cau.  

Os na fyddwch chi’n clywed gennym o fewn yr amser hwn, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru i sicrhau ein bod wedi cael eich cais.  

Mae galw uchel am y gronfa hon, felly ni allwn drafod ceisiadau unigol sy’n cael eu gwrthod. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio darparu adborth ysgrifenedig clir, a byddwn yn eich cefnogi i ymgeisio eto, os yn gymwys

 

5. Hawlio nawdd

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn anfon llythyr cynnig manwl atoch yn cynnwys manylion sut i gydnabod ein nawdd, ynghyd â Ffurflen Adroddiad Digwyddiad y mae’n rhaid ei gwblhau cyn gellir rhyddhau’r nawdd. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i dynnu’r cynnig yn ôl os nad yw’r nawdd yn cael ei hawlio ymhen mis o gynnal y digwyddiad(au). Cyfrifoldeb y trefnyddion yw sicrhau bod eu Ffurflen Adroddiad Digwyddiad yn ein cyrraedd o fewn yr amserlen hon. 

 

 

 

Nôl i Cronfa Ysbrydoli Cymunedau