Dewislen
English
Cysylltwch

I wneud cais am le ar raglen Cynrychioli Cymru, bydd angen i chi gwblhau cais ar SurveyMonkey. 

Bydd y ffurflen gais yn gofyn am eich manylion personol, gan gynnwys manylion a fydd yn ein helpu i asesu cymhwystra ynghyd â gwybodaeth am eich gyrfa fel awdur hyd yn hyn. Byddwn hefyd yn holi am eich uchelgeisiau fel awdur a pham y credwch y gall rhaglen Cynrychioli Cymru eich helpu ar y pwynt yma yn eich gyrfa. Byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno sampl fer (1, 000 o eiriau neu rhwng 4-6 cerdd) o’ch gwaith creadigol sydd heb ei gyhoeddi.  

Am ragor o wybodaeth am gymhwysedd, ac os ydych yn cyflwyno nofel graffeg neu os yw eich gwaith yn un a berfformir, ewch draw i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.  

I’ch helpu i baratoi eich cais, gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais i ddarllen y cwestiynau ymlaen llaw. Mae Fersiwn Dyslecsia Gyfeillgar a Phrint Bras hefyd ar gael. Os byddai’n well gennych lenwi un o’r ffurflenni hyn yn hytrach na’r ffurflen gais ar SurveyMonkey, anfonwch eich ffurflen i post@llenyddiaethcymru.org ynghyd â’ch enghraifft o waith creadigol a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth wedi’i chwblhau. 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn galw heibio anffurfiol rhwng 6.00 pm -7.00 pm ddydd Iau 29 Awst a dydd Mawrth 10 Medi 2024. Cliciwch ar y dyddiadau uchod i archebu eich tocyn am ddim drwy wefan Eventbrite. 

Fel arall, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd). 

Nôl i Gwybodaeth a Chefndir