Dewislen
English
Cysylltwch

Dihuno’r Dychymyg

Digwyddiad #3 – Plant a Phobl Ifanc

6 Gorffennaf 2023
11.30 am – 1.30 pm
Y Senedd, Bae Caerdydd

Hwn oedd yr trydedd mewn rhaglen o naw digwyddiad yn adeiladau’r Senedd i ddathlu popeth barddonol, a chodi proffil barddoniaeth a’r gair llafar yng nghartref democratiaeth Cymru.

Roedd y digwyddiad am ddim yn cynnwys perfformiadau a sgyrsiau ganein beirdd plant a disgyblion ysgol, a cafodd ei noddi gan Dawn Bowden MS, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.

Gall cyflwyno hud a lledrith straeon a geiriau yn gynnar ym mywyd rhywun olygu y bydd yr unigolyn hwnnw’n mwynhau llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol gydol oes. Gan weithio yn y system addysg – o’r blynyddoedd cynnar i’r brifysgol – yn ogystal ag y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, un o nodau Llenyddiaeth Cymru yw ceisio ysgogi diddordeb a chwilfrydedd plant a phobl ifanc ym maes ysgrifennu creadigol a darllen. Mae dau o’n prif brosiectau, Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales, yn eirioli dros hawliau plant a phobl ifanc yn ogystal â’u cefnogi i ymateb yn greadigol i faterion cymdeithasol sy’n bwysig iddyn nhw.

Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y stori newyddion am y digwyddiad.