Mae’r awdur a’r bardd, Casia Wiliam, wedi ei chefnogi i sefydlu grŵp ysgrifennu creadigol newydd ym Methesda fel rhan o gynllun Llên mewn Lle. Mae’r grŵp ‘sgwennu yn cwrdd ers mis Ebrill yng Nghanolfan Cefnfaes yn y pentref ac wedi mabwysiadu’r enw ‘Diosg’ ar ôl cerdd gan Casia sy’n trafod eu profiadau hyd yma.
Caiff Llên mewn Lle ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â WWF Cymru, ac mae’n brosiect sydd yn archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth, gan archwilio datrysiadau ymarferol ar gyfer yr effeithiau. Mae’r prosiect ym Methesda wedi derbyn nawdd gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Gwynedd, ac mae’n cael ei gefnogi gan Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi.
“Yn ein sesiynau rydan ni’n defnyddio ’sgwennu a llenyddiaeth fel ffordd o ddod yn nes at fyd natur a’r amgylchedd, gan gymryd cyfle creadigol i archwilio’r hyn mae natur a’r gymuned leol yn olygu i ni. Yn y sesiynau byddwn yn edrych ar wahanol arddulliau ’sgwennu, yn edrych ar waith gwahanol lenorion, yn clywed gan arbenigwyr lleol ac yn mynd allan i fwynhau natur yr ardal. Mae yna griw da wedi dod ynghyd ac rydan ni’n cael budd mawr o ddod at ein gilydd i fwynhau, dysgu a ’sgwennu.”
– Casia Wiliam