Dewislen
English
Cysylltwch
Teitl y prosiect: Grym Geiriau/Write Back
Cyfranogwyr: Awduron 18 i 25 oed Anabl/Byddar/sy’n dioddef o salwch cronig. 

Nod y prosiect:  

 Bydd encilion yn meithrin ysgrifennu’r ifanc a gesglir i fod yn rhifyn cyntaf cylchgrawn ysgrifennu creadigol dwyieithog ar gyfer Cymry ifanc Anabl/Byddar/â salwch cronig. Nod y cylchgrawn fydd 

Gwybodaeth am y prosiect:  

Dros encil deuddydd, tair-ieithog (Cymraeg, Saesneg a BSL) yn Nhŷ Newydd, daeth pobl ifanc Anabl/Byddar/sy’n dioddef o salwch cronig at ei gilydd i archwilio eu profiadau a’u perthnasoedd â byd natur trwy weithdai ysgrifennu creadigol, yoga a myfyrdod opsiynol, a gweithgareddau awyr agored sy’n canolbwyntio ar ofynion mynediad y cyfranogwyr. Nod y prosiect oedd i gryfhau lleisiau Cymry ifanc Anabl a/neu Fyddar a/neu â salwch cronig. Mae’r gwaith creadigol sydd wedi cael ei gynhyrchu yn yr encil wedi cael ei gasglu a chaiff ei gyhoeddi mewn rhifyn cyntaf y cylchgrawn gyda’r nod o gynyddu cynrychiolaeth a meithrin lleisiau Anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Adborth Cyfranogwyr

Deuthum i ffwrdd o’r encil gan deimlo fy mod yn cael fy nerbyn a’n grymuso’n fawr. Pan gyrhaeddais yr encil roeddwn yn cael trafferth gydag amheuon a theimladau negyddol tuag at fy ysgrifennu. Roeddwn i’n teimlo nad oedd neb eisiau darllen fy ngwaith neu fod gen i ddim talent. Roedd y sesiwn lle buom yn trafod pam fod angen i ni glywed awduron mwy amrywiol yn fy ysgogi i ddal ati gyda fy ngwaith. Roeddwn i hefyd yn teimlo fel awdur ‘go iawn’. Mae dod i encil ysgrifennu yn Nhy Newydd yn rhywbeth sydd y tu hwnt i fy modd ariannol a chorfforol. Mae’n teimlo’n aml fy mod wedi hitio’r wal gyda faint y gallaf wella fel awdur, ond rhoddodd yr encil obaith i mi y bydd mwy o gyfleoedd i bobl fel fi yn y dyfodol.

Bywgraffiadau yr artistiaid: 

Mae Bethany Handley yn awdur Cymreig Anabl sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei barddoniaeth wedi’i chyhoeddi yn Poetry ac mae hi’n awdur ar rhaglen Lleisiau nas Clywir Theatr y Sherman ar gyfer llenorion Cymreig sy’n cael eu tangynrychioli. Mae ei gwaith yn tynnu ar ei phrofiadau fel menyw ifanc Anabl, yn enwedig fel defnyddiwr cadair olwyn rhan amser, i herio diffyg hygyrchedd.  

Daw Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 am ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, tu ôl i’r awyr (Y Lolfa, 2020) cyn cyhoeddi ei hail nofel, Cat (Y Lolfa, 2021) fel rhan o gyfres Y Pump a dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2020/21.  

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron #4