Dewislen
English
Cysylltwch
Enw’r Prosiect: Our Hidden Garden
Cyfranogwyr: Pobl ifanc a phobl hŷn sy’n profi unigedd yn Wrecsam. Nod y prosiect oedd cydnabod yr harddwch naturiol o’n cwmpas mewn mannau gwledig a threfol, gan ddod â chenedlaethau ifanc a hŷn at ei gilydd i fyfyrio’n gadarnhaol am eu cymuned. 

Gwybodaeth am y prosiect: 

Cyfres o sesiynau ysgrifennu creadigol a pherfformio gair llafar sy’n pontio’r cenedlaethau, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth y mannau gwyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Gan dynnu sylw at erddi muriog, caeau pêl-droed, slipiau o laswellt, blodau’n meddiannu strydoedd segur, gerddi cymunedol a’r tirweddau hardd o amgylch Wrecsam. Drwy baru pobl ifanc â phobl hŷn sy’n profi unigedd, mi wnaeth y prosiect bontio’r bwlch lleol mewn darpariaeth mynegiant creadigol a darparu prosiect creadigol lle gall teuluoedd weithio arno gyda’i gilydd. 

Daeth y prosiect i ben gyda blodeugerdd ddigidol o ysgrifennu, yn ogystal â ffilmiau byr gan bob cyfranogwr ar eu gofod dewisol.

Adborth

Gwylio’r fideo llawn

Bywgraffiadau yr artistiaid: 

Mae Anastacia Ackers yn awdur, gwneuthurwr theatr a hwylusydd o ogledd-ddwyrain Cymru. Hi yw cadeirydd panel TEAM National Theatre Wales ar hyn o bryd ac mae hi wedi gweithio fel rhan o brosiect TEAM Wrecsam National Theatre Wales ers 2019. Mae hi hefyd yn gweithio gyda Outside Lives, menter gymdeithasol ddielw wedi’i leoli ym Maeshafn, Sir y Fflint ac mae hi’n cefnogi’r grŵp LikeMinded ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, fel rhan o’r Dementia Engagement and Empowerment Project (DEEP). Mae Anastacia yn angerddol am hanes a mytholeg ac yn teimlo’n hynod gyffrous i fod ar raglen datblygiad proffesiynol Cynrychioli Cymru 2022-23.    

Mae Natasha Borton yn grëwr amlddisgyblaethol ac yn hwylusydd gweithdai sy’n defnyddio barddoniaeth, gair llafar, theatr, a cherddoriaeth yn ei gwaith a’i gwaith hwyluso ar draws y DU. Creda Natasha’n gryf yng ngrym y celfyddydau i gysylltu pobl trwy brofiadau bywyd. Mae hi wedi cefnogi perfformwyr rhyngwladol fel Neil Hilborn, Rudy Franscisco, a Sophie McKeand ac wedi perfformio yn The Lowry, Everyman Theatre and Playhouse, Canolfan Mileniwm Cymru ac mewn digwyddiadau fel National Theatre Wales Big Democracy, Bang! Said the Gun, a Storm of the Golden Sky. Mae hi’n aelod o Banel TEAM National Theatre Wales, yn gyd-sylfaenydd North Wales Creative Network, ac yn Gyfarwyddwr Artistig ar gyfer Voicebox Spoken Word, Wrecsam, gogledd Cymru. 

Nôl i Gwaith Comisiwn i Awduron #4