Yr wythnos olaf yw hi, ac wythnos yma, chi sydd wrth yw llyw’n greadigol!
Mae yna un stori arall gennyf fi, a wedyn, mae e lan i chi. Mae gen i weithgaredd i chi i’ch helpu chi i greu stori newydd, un y gallech chi ei hadrodd…
- Gwrandewch ar y stori
- Creuwch stori newydd
Fe fydd angen:
Darn mawr o bapur
Pensiliau lliw neu ffelt-tips
Cam 1: Darluniwch chwech bocs ar y papur. Y bocsys yma fydd yn dal eich stori chi. Labelwch y bocs 1-6.
Cam 2: Creuwch eich stori.
Yn Bocs 1, rydych chi’n mynd i arlunio eich prif gymeriad. Meddyliwch am yr holl straeon rydych chi wedi’u harchwilio dros yr wythnosau diwethaf. Rydym ni wedi clywed straeon am gewri, brenhinoedd, y tylwyth teg, a gwledydd wedi’u boddi. Gallech chi ddefnyddio un o’r cymeriadau o’r straeon yma, neu greu cymeriad hollol newydd.
Wrth ymyl eich prif gymeriad, rydych chi’n mynd i arlunio’r peth maen nhw eisiau’n fwy nag unrhywbeth arall yn y byd. Hwn fydd yn helpu chi i greu’r stori. Yn y stori glywoch chi’r wythnos yma, er enghraifft, roedd Rhita Fawr eisiau llenwi ei glogyn gyda barfau.
Yn Bocs 2, rydych chi’n mynd i arlunio lleoliad eich stori. Ydy’r stori’n digwydd mewn castell, ar fwrdd llong môr-leidr, mewn coedwig llawn arswyd, neu o dan y môr?
Yn Bocs 3, mae gennych chi ddewis. Rydych chi naillai yn mynd i arlunio cymeriad fydd yn helpu eich prif gymeriad i ennill beth maen nhw eisiau, neu rywun fydd yn eu stopio nhw. Meddyliwch am y tylwyth teg yn stori y Delyn Aur, a wnaeth helpu Taffy drwy roi dymuniad iddo fe. Neu’r Brenin Arthur yn y stori yma, a wnaeth stopio Rhita pan geisiodd y cawr gymryd ei farf.
Yn Bocs 4, rydych chi’n mynd i arlunio eich rhwystr gyntaf. Rhwystr yw rhywbeth sydd yn ceisio stopio’r prif gymeriad rhag gael beth mae hi neu fe eisiau. Gall hwn fod yn rwystr corfforol e.e. mynydd enfawr mae angen i’r cymeriad ddringo, neu wrach sydd yn mynd i droi fe neu hi i fewn i froga. Neu gall hwn fod yn rwystr meddyliol e.e. sgil newydd sydd angen iddyn nhw ddysgu. Yn stori Clustiau’r Brenin March, roedd angen i Bifan y Barbwr ddod dros ei ofn o rannu cyfrinach y brenin cyn roedd e’n gallu gwella.
Yn Bocs 5, rydych chi’n mynd i arlunio eich ail rhwystr, rhywbeth arall sydd angen i’ch cymeriad wynebu a goroesi. A fydd ei helpwr o Focs 3 yn eu helpu? Neu bydd eich cymeriad yn gwynebu cymeriad sydd am eu stopio nhw, fel wnaeth Rhita pan roedd rhaid iddo fe wynebu byddin y Brenin Arthur?
Yn Bocs 6, rydych chi’n mynd i arlunio diweddglo eich stori. A fydd eich cymeriad yn llwyddiannus yn ennill beth sydd eisiau arnyn nhw? Neu fydd eu cynlluniau’n cael eu difetha, fel y digwyddodd i Rhita?
Efallai bydd chwech bocs eich stori yn edrych rhywbeth fel hwn:
Cam 3: Nawr rydych chi wedi creu eich stori mewn chwech bocs, cymerwch amser i nodi i lawr unrhyw iaith gwych rydych chi am ddefnyddio pan rydych chi’n adrodd eich stori, fel wnaethoch chi pan roeddech chi’n creu map stori yn Wythnos 1. Bydd hwn yn helpu pan rydych chi’n adrodd eich stori.
3. Adroddwch eich stori
Defnyddiwch eich map stori chwe-ran i adrodd eich stori newydd i rywun arall. Gofynnwch am adborth – beth roedden nhw’n hoffi am eich stori chi? A oedd yna unrhywbeth roedden nhw eisiau clywed mwy amdano?