Dewislen
English
Cysylltwch

 

Enw Prosiect: Crochan Stori – Story Cauldron

Cyfranogwyr: Teuluoedd

Platfform Digidol: Youtube, Gwefan Llenyddiaeth Cymru

 

Gwybodaeth am y prosiect:

Mae angen straeon arnom ni nawr yn fwy nag erioed. Adnodd arlein oedd y Crochan Stori a ddyfeisiwyd gan chwedleuwr Tamar Eluned Williams er mwyn helpu teuluoedd i archwilio, creu ac adrodd straeon yn ystod y pandemig. Pecyn adrodd straeon adref yw’r prosiect: mae’r adnoddau a grëwyd yn darparu pedair stori newydd i blymio i mewn iddynt, ynghyd â llawer o syniadau ar sut i ddechrau adrodd straeon yn eich cartref, gan ddefnyddio pethau sydd gennych eisoes yn y tŷ. Ymhlith y straeon mae Y Delyn Aur, Clustiau’r Brenin March, Cantre’r Gwaelod a Rhita Mawr. Mwynhewch fytholeg hudol dreigiau, gwrachod a thylwyth teg. Gadewch i’ch dychymyg redeg yn wyllt tra byddwch chi’n aros adref!

 

Gwybodaeth am Tamar:

Mae Tamar yn adrodd straeon yn Gymraeg a Saesneg. Mae hi’n gweithio mewn ysgolion, gwyliau, theatrau ac amgueddfeydd o amgylch y byd yn defnyddio chwedlau Cymru i adeiladu creadigrwydd, uchelgais ac hyder. Mae hi’n credu fod chwedleua i bawb a fod angen straeon er mwyn adeiladu byd iach. Mae Tamar hefyd yn Gydlynydd Ymgysylltu ar gyfer Gŵyl Chwedleua Beyond the Border, ac yn aelod o’r Greenbank Hags, sydd yn curadu a chynhyrchu STORYPUB. Ennillodd wobr genedlaethol Storïwr Ifanc y Flwyddyn yn 2013 a Gwobr Esyllt Harker am lais newydd o Gymru yn 2016.

 

“Rwy’n credu fod chwedlau a straeon gwerin Cymru yn berwi â doethineb a chryfder. Tra eu bod yn aros adref, rydw i eisiau cefnogi plant a theuluoedd i adrodd straeon, i greu straeon newydd, ac i chwarae a bod yn greadigol â geiriau. Gall straeon gynnig cwmnïaeth a rhoi cyfle inni fyfyrio yn ystod y cyfnod hwn.” – Tamar Eluned Williams
Nôl i #GwaithComisiwnLlC