- Gwrandewch ar y stori
- Creuwch fyd y stori
Dychmygwch beth oedd hi fel i fyw amser maith, maith yn ôl. Beth fuaswch chi wedi gweld, arogli, blasu a chlywed?
Rydym ni’n mynd i feddwl am wrando. Gyda’n gilydd, rydym ni’n mynd i greu cipolwg i fewn i fyd y stori drwy greu map sain, gan ddilyn y stori o’r dechrau, trwy’r canol, i’r diwedd.
Gwyliwch y fideo yma ac wedyn dilynwch y camau er mwyn creu eich map sain ar gyfer y stori.
Cam 1: Casglwch eich hoffer
Offerynnau cerddorol (os oes gennych chi rai)
Potiau/sosbenni
Siglwyr (gallech chi greu rhain yn hawdd drwy lenwi potiau plastig neu jariau gyda corbys, reis neu ffa sych)
Platiau a chytleri
Dŵr mewn potel plastig
Rhieni, brodyr neu chwiorydd er mwyn helpu creu sŵn!
Eich cyrff a’ch lleisiau chi!
Cam 2: Dychmygwch synau’r stori
Meddyliwch am beth fuasai cymeriadau’r stori yn clywed ar bob adeg yn y stori. Creuwch restr neu ddyluniwch fap sain o ddechrau, canol a diwedd y stori. Dychmygwch eich hun yn sefyll yng Nghantre’r Gwaelod. Beth ydych chi’n gallu clywed o’ch hamgylch chi?
Ymarferwch sut i greu’r holl synau yma gyda’ch offerynnau, eich cyrff a’ch lleisiau.
Dyma rai syniadau i chi o synau gwahanol:
Dechrau: “Byw yng Nghantre’r Gwaelod”
Dŵr y môr yn lapio
Awel yn siffrwd
Gwartheg/defaid/anifeiliaid eraill
Pobl yn siarad
Canol: “Yn ystod y parti”
Canu
Arllwys diodydd
Traed yn tapio/dawnsio
Cerddoriaeth
Sŵn y storm yn codi yn y pellter
Pobl yn siarad a chwerthin
Diwedd: “Y storm yn ffrwydro”
Tonnau’n codi
Y wal yn torri
Gwynt yn chwythu
Pobl yn gweiddi
Y gloch yn canu
Cam 3: Creuwch fap sain
Pan rydych chi wedi penderfynu ar y synau y gallech chi glywed ar bob adeg o’r stori, creuwch fap sain o’r stori sydd yn cwmpasu’r stori gyfan. Gan ystyried faint o bobl fydd yn creu eich perfformiad sain, gallech chi adio y nifer o synau sydd angen ymhob ran e.e. gall un person greu sŵn anifeiliaid ar y dechrau, sŵn pobl yn chwerthin a stampio’u traed yng nghanol y stori, a sŵn y gwynt yn chwythu a glaw yn taro gyda sosban yn y diwedd.
Nid oes angen i’ch map sain edrych fel fy un i. Gallech chi ei ddylunio mewn unrhyw ffordd sydd yn gwneud synnwyr i chi!
Cam 4: Nodwch lefel y sain
Sut ydych chi am ddangos ar y map sut i fynd yn uwch ac yn dawel? Cofiwch nodi rheolaeth y sain ar eich map!
Cam 5: Perfformiwch sain y stori
Dilynwch y map a pherfformiwch y stori drwy sain! Mae’n iawn i fyrfyrfyrio wrth i chi fynd yn eich blaen…
- Rhannwch y stori gyda ni
Beth am recordio eich hun yn adrodd y stori gyda’r perfformiad sain fel cefndir iddi? Gallech chi gymryd tro yn adrodd y stori a chreu’r synau. Defnyddiwch eich map sain i gofio sut mae sŵn y stori y newid wrth i’r digwyddiadau yn y stori gymryd lle.
Rhannwch eich stori newydd gyda ni! Facebook, Twitter, Instagram neu Ebost.