Dewislen
English
Cysylltwch

 

  1. Gwrandewch ar y stori

  1. Archwiliwch y stori

Wythnos yma, rydym ni’n mynd i ffocysu ar y cymeriadau yn y stori a gwahanol technegau o’u harchwilio nhw ymhellach. Pam ydyn nhw’n gwneud y pethau maen nhw’n gwneud? Beth fuasech chi wedi’i gwneud yn eu hesgidiau nhw?

Cam 1: Dewisiwch gymeriad.

Gallwch chi ddewis un o’r prif gymeriadau neu, os rydych chi am osod sialens i’ch hun, beth am ddewis cymeriad sydd ar ymylon y stori, neu greu cymeriad hollol newydd?

  1. Brenin March
  2. Bifan
  3. Gwraig Bifan
  4. Y doctor
  5. Y pibydd
  6. Rhywun arall sydd yn y parti (cymeriad newydd)
  7. Gwas neu forwyn yn y castell

 

Cam 2: Gofynnwch gwestiynau i’ch cymeriad.

Pan rydych chi wedi dewis eich cymeriad, rydych chi’n mynd i’w rhoi nhw yn y sedd boeth. Mae yna wahanol technegau i wneud hwn.

Gallech chi weithio gyda rhywun arall: gallen nhw ofyn y cwestiynau a gallech chi esgus taw chi yw’r cymeriad a’u hateb nhw. Ceisiwch gofio’r atebion achos fe fydden nhw’n eich helpu chi hwyrach ymlaen.

Neu, gallech chi ddod lan gyda rhestr o gwestiynau am eich cymeriad ac wedyn ysgrifennu’r atebion i lawr.

Mae’n bwysig bod eich cwestiynau chi yn gwestiynau agored achos wedyn bydd eich atebion chi yn fwy greadigol.

Cwestiwn caeedig yw gwestiwn gallech chi ei ateb gyda “ie” neu “na”. Cwestiwn agored yw gwestiwn sydd yn gofyn am ateb fwy manwl.

Er enghraifft, cwestiwn caeedig am Bifan y Barbwr yw:

“Wyt ti’n hoffi torri gwallt y brenin?” (Gall Bifan ateb “ie” neu “na”.)

Cwestiwn agored yw rhywbeth fel:

“Pam wyt ti’n hoffi gweithio i’r brenin?” “Beth yw’r peth mwyaf ddychrynllyd am fod yn farbwr i’r brenin?”

Pan rydych chi wedi dewis eich cwestiynau (mae e lan i chi faint rydych chi’n penderfynu paratoi), ceisiwch eu hateb fel y cymeriad.

 

Esiampl: Dewisiais i wraig Bifan fel fy nghymeriad i, a dyma oedd y cwestiynau wnes i eu dewis.

Beth yw dy enw di?

Sut wnest ti gwrdd â Bifan?

Oes swydd gennyt ti?

Beth yw dy hoff beth am Bifan?

Pan aeth Bifan yn sâl, sut oeddet ti’n teimlo?

Pam benderfynaist ti fod hi’n amser galw am y doctor?

Sut oeddet ti’n gwybod bod Bifan yn well?

Sut wnest ti baratoi am barti’r Brenin?

Pan glywaist ti gyfrinach y brenin, sut oeddet ti’n teimlo?

Beth wyt ti am i ddigwydd nesaf?

Syniad: Mae “beth wyt ti am ddigwydd nesaf” yn gwestiwn gallech chi ofyn i unrhyw gymeriad!

 

Dyma oedd fy atebion i, ond cofiwch, gall eich hatebion chi fod yn hollol gwahanol!

Beth yw dy enw di? Annie

Sut wnest ti gwrdd â Bifan? Wnaethom ni gwrdd mewn twmpath – dawns – yn y pentref!

Oes swydd gennyt ti? Oes, fi sydd yn pia’r popty yn y pentref. Rydw i’n dda iawn am bobi cacennau.

Beth yw dy hoff beth am Bifan? Mae e’n gwneud i fi chwerthin.

Pan aeth Bifan yn sâl, sut oeddet ti’n teimlo? Meddyliais i falle bod e angen darn o gacen i roi gwên ar ei wyneb. Ond wnaeth e ddim bwyta briwsionen!

Pam benderfynaist ti fod hi’n amser galw am y doctor? Pan roedd Bifan wedi bod yn y gwely am chwech wythnos, meddyliais i “digon yw digon!” a phenderfynais i alw am y doctor.

Sut oeddet ti’n gwybod bod Bifan yn well? Gwyddais ei fod e’n well pan ofynnodd e am ddarn o fara brith gyda’i baned o de. Roeddwn i mor hapus!

Sut wnest ti baratoi am barti’r Brenin? Roeddwn i wrth fy modd i fynd. Pobais i’r cacen mwyaf arbennig ar gyfer y brenin – wyth haen o siocled ac eisin hufen!

Pan glywaist ti gyfrinach y brenin, sut oeddet ti’n teimlo? Roedd e’n esbonio lot o bethau am y brenin. Roedd e bob amser mor drist. Dwi’n hapus iawn ei fod e wedi rhannu’i gyfrinach gyda pawb. Nid oes angen iddo fe deimlo’n siomedig.

Beth wyt ti am i ddigwydd nesaf? Dwi’n gobeithio y bydd Bifan yn parhau i dorri gwallt y brenin achos roedd e’n ennill arian da yn gwneud. Dwi’n gobeithio roedd y brenin wedi mwynhau fy nghacen ac yn ordro un arall eto.

 

  1. Adroddwch y stori

Adroddwch y stori o berspectif eich cymeriad chi. Defnyddiwch person cyntaf i wneud – bydd hwn yn newid y ffordd rydych chi’n adrodd y stori. Yn lle “Aeth Bifan y Barbwr i’r castell”, dywedwch “Es i i’r castell”.

Gallech chi ddefnyddio eich hatebion yn y sedd boeth i’ch hysbrydoli. Dyma ddarn bach o fy un i, fel esiampl:

“Fy enw i yw Annie a dwi wedi bod yn wraig i Bifan y Barbwr am chwe mlynedd. Priodais i Bifan achos roedd e’n gwneud i fi chwerthin. Rydw i bob amser wedi bod yn browd iawn ei fod e’n torri gwallt y brenin, ond wedyn, aeth e’n sâl. Ceisiais ei wella drwy bobi ei hoff fwyd: sgoniau, bara brith, cacen siocled. Ond nid oedd e am eu cyffwrdd nhw, a doedd e ddim yn dweud jôcs ragor…”

Os rydych chi’n cael problemau’n cofio’r stori, cofiwch gallech chi bob amser gwrando arni eto neu greu map stori i’w chofio. Ewch yn ôl i Wythnos 1 i ddarganfod sut i wneud hwn.

4. Ffilmiwch y stori

Pan rydych chi’n teimlo’n hyderus, beth am ffilmio’ch hun yn adrodd y stori o berspectif y cymeriad a’i rhannu gyda ni? Facebook, Twitter, Instagram neu Ebost.

Nôl i Tamar Eluned Williams