Dewislen
English
Cysylltwch
Wrth i chi archwilio’r pecyn hwn, byddai wrth fy modd petaech chi’n rhannu eich straeon gyda ni drwy dudalen Facebook Llenyddiaeth Cymru.

 

  1. Gwrandewch ar y stori

Nawr rydych chi wedi clywed fi’n adrodd y stori, dwi am eich helpu chi i ddysgu ac adrodd y stori yn eich geiriau eich hun. Mae adrodd straeon yn gelfyddyd o rannu a chasglu straeon. Nid yw’r stori yma’n perthyn i fi. Mae’n lot hynach na fi, felly nid fi sy’n ei berthyn – does neb yn.

Croeso i chi adrodd y straeon yma mewn unrhyw ffordd.  Felly rydym ni’n mynd i wneud gweithgaredd gyflym er mwyn archwilio pa mor wahanol gall eich straeon fod.

 

  1. Archwiliwch y stori

Fe fydd angen arnoch chi:

  • Darn o bapur
  • Pen neu bensil
  • Rhywun i ddarllen y cwestiynau i chi (neu gallech chi eu darllen nhw)

 

Cyngor pwysig! Nid gweithgaredd darllen a deall yw hwn! Ni fyddech chi’n dod o hyd i’r atebion yn fy stori i, bydd rhaid i chi eu creu nhw.

  1. Beth ydy’r tylwyth teg yn edrych fel? Pa fath o ddillad ydyn nhw’n gwisgo?
  2. Beth ydy Taffy Morgan yn edrych fel? Faint oed yw e?
  3. Nodwch i lawr dri gair sydd yn disgrifio tŷ Taffy Morgan.
  4. Beth ydy Taffy Morgan yn gallu gweld o ffenestr ei gegin?
  5. Beth arall oedd yn digwydd yn yr ŵyl ble roedd Taffy yn chwarae ei delyn? Beth oeddech chi’n gallu clywed? Beth oeddech chi’n gallu arogli?
  6. Pa fwyd oedd Taffy Morgan a’r tylwyth teg wedi bwyta gyda’i gilydd? Pa fwyd y buasech chi’n rhoi i’r tylwyth teg petaen nhw’n cnocio ar eich drws chi?

 

  1. Creuwch fap stori

Fe fydd angen:

  • Darn mawr o bapur neu gardfwrdd (neu gallech chi glynu darnau llai o bapur at ei gilydd gyda tâp selo)
  • Pensil
  • Pensiliau lliw neu ffelt-tips os yn bosib

Un ffordd hawdd iawn o gofio stori yw i greu map stori.  Dyma fideo o sut i greu map stori mewn tri cam syml.

Cam 1: Darluniwch beth sy’n digwydd yn y stori: y prif bwyntiau fydd yn helpu i chi gofio’r stori.

Cam 2: Nodwch beth rydych chi am i’r gynulleidfa deimlo ym mhob rhan o’r stori.

Cam 3:  Nodwch unrhyw ddisgrifiadau gwych rydych chi am gofio.

Nid oes angen i’ch map stori edrych fel fy un i. Gallech chi greu un yn gyflym iawn neu gymryd amser hir drosto fe. Gallech chi ei arddangos mewn unrhyw ffordd – mae angen i’r map wneud synnwyr i chi yn unig.

Er mwyn i’ch hatgoffa chi, dyma’r digwyddiadau yn y stori, felly bydd angen eu cynnwys nhw, ond gallech chi hefyd cynnwys syniadau eich hun. Cofiwch eich hatebion i’r holiadur. Efallai bod modd eu defnyddio nhw yma!

  1. Mae yna dyn o’r enw Taffy Morgan a mae’n ofnadwy am ganu.
  2. Un diwrnod, mae hen fardd yn clywed Taffy’n canu yn ei gegin ac yn anghwrtais iawn iddo fe.
  3. Yr un diwrnod, daw’r tylwyth teg i ymweld â Taffy ac ar ôl derbyn bwyd ohono fe, dyma nhw’n rhoi un dymuniad iddo fe.
  4. Mae Taffy yn dymuno am offeryn hud sydd bob amser yn chwarae cerddoriaeth brydferth.
  5. Mae’r tylwyth teg yn rhoi telyn aur iddo fe, a phan mae e’n ei chwarae, mae hi’n creu cerddoriaeth hudol a phawb o’i amgylch yn dawnsio.
  6. Mae’r delyn aur yn gwneud Taffy Morgan yn enwog.
  7. Un diwrnod, mae Taffy yn derbyn gwahoddiad i chwarae’r delyn yn ei ŵyl lleol, a mae’n gweld yr un fardd.
  8. I ddysgu gwers i’r hen fardd, mae Taffy yn chwarae’r delyn ymlaen ac yn ymlaen nes bod yr hen fardd wedi’i flino’n lâ
  9. Mae’r tylwyth teg yn cymryd y delyn yn ôl a nid yw Taffy’n ei gweld hi fyth eto.

 

  1. Adroddwch y stori

Llongyfarchiadau! Rydych chi wedi dysgu stori’r Delyn Aur.

I sicrhau bod y stori yn aros yn eich pennau, beth am ei hadrodd ar lafar?

Fe fydd angen arnoch chi:

  • Cynulleidfa (teganau, anifail anwes fydd yn aros mewn un lle, rhieni/brodyr neu chwiorydd)
  • Ardal perfformio. Os hoffech chi, gallech chi adrodd y stori yn eistedd mewn Cadair Stori. Beth am ei harddurno gyda blancedi, clustogau neu sgarffiau? Neu gallech chi sefyll lan – neu trio’r ddau!
  • Eich map stori, os rydych chi’n anghofio unrhyw fanylion.

Mae straeon fel hon yn newid pob tro rydych chi’n eu hadrodd nhw.  Fe fydd yr iaith rydych chi’n defnyddio yn newid hefyd – efallai byddech chi’n dod o hyd i ffyrdd gwahanol o ddisgrifio pethau. Beth am ymarfer adrodd eich stori mewn nifer o ffyrdd gwahanol, a dod o hyd i’r ffordd rydych chi’n hoffi gorau?

Pan rydych chi’n teimlo’n hyderus, rhowch eich map stori i lawr. Rhowch tro ar adrodd y stori hebddi! Sut ydy hi’n teimlo i fedru defnyddio dwy law?

Beth am ffilmio neu recordio eich hun yn adrodd y stori a’i rhannu gyda ni?

 

Nôl i Tamar Eluned Williams