Pencerdd
Mae Pencerdd, a gynigir mewn partneriaeth gyda Barddas, yn raglen sydd yn rhoi cyfle i feirdd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr.
Nod y cynllun hwn yw rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol. Trwy gymysgedd o gefnogaeth unigol a gweithdai dwys, y gobaith yw y bydd hyder y beirdd yn y grefft o gynganeddu yn cynyddu, ac y byddant yn meithrin eu mynegiant personol eu hunain o fewn iaith Cerdd Dafod.
Bydd ein beirdd yn mynd ymlaen i eirioli dros y grefft arbennig hon, gan blannu hadau cynghanedd ymysg grwpiau a chymdeithasau eraill. Gobeithiwn, felly, y bydd cynllun Pencerdd yn meithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru.
Mae ceisiadau ar gyfer Pencerdd 3 bellach wedi cau. Cadwch lygad yma ar gyfer unrhyw ddiweddariadau.
Cefnogir y rhaglen hon gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Elw Park-Jones.