Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddiant i awduron. Weithiau caiff rhain eu cynnig fel rhan o brosiect penodol (er enghraifft, bydd awduron sy’n derbyn nawdd i gyflawni gweithgaredd fel rhan o Gynllun Nawdd Llên er Lles yn mynychu diwrnod hyfforddiant gorfodol cyn dechrau’r gwaith), neu maent yn ddiwrnodau hyfforddiant agored.

Mae’r diwrnodau hyfforddiant agored yn cynnig cyfleoedd i awduron sy’n byw yng Nghymru fireinio ac ehangu eu sgiliau; datblygu a phroffesiynoli eu dulliau o weithio; cynyddu eu gallu i wneud gwaith fel hwyluswyr celfyddydol; cwrdd â rhwydweithio ag awduron eraill; a chlywed gan arbenigwyr yn y diwydiant.

Mae’r diwrnodau hyfforddiant yn ddwyieithog oni nodir yn wahanol, a caent eu cynnig yn y gogledd ac yn y de. O bryd i’w gilydd byddant yn cael eu cyflawni ar y cyd â phartneriaid arbenigol, a byddant bob amser yn cynnwys cyfraniadau gan unigolion a sefydliadau sy’n arweinwyr yn eu meysydd yng Nghymru a thu hwnt. Bydd dyddiadau hyfforddi yn cael eu hychwanegu i’r dudalen hon ac yn cael eu hyrwyddo trwy ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’n cylchlythyr.

Os hoffech chi wneud cais am faes penodol rydych chi’n dymuno derbyn hyfforddiant ynddo, fe hoffem ni glywed gennych chi. Noder os gwelwch yn dda na allwn warantu cwrdd â’r holl geisiadau.

 

 

Diwrnodau Hyfforddiant Agored 2020

Ar hyn o bryd rydym yn derbyn archebion ar gyfer dau ddiwrnod hyfforddiant ym mis Chwefror 2020. Gweler isod am wybodaeth bellach.

 

Cyflawni Gweithgaredd Llenyddol yn y Gymuned

Dyddiad:        Dydd Sadwrn 1 Chwefror 2020
Lleoliad:         Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy
Pris Tocyn:      £20.00 am y diwrnod cyfan gan gynnwys bwffe ysgafn / £15.00 am y diwrnod cyfan (heb gynnwys cinio)
Iaith:                Dwyieithog

 

Bydd y diwrnod hwn yn canolbwyntio ar ddarparu gweithgaredd llenyddol mewn lleoliadau cyfranogol a gweithio gyda phobl anabl. Bydd y diwrnod yn cyflwyno enghreifftiau o arfer da, yn darparu gwybodaeth ar fynediad a diogelu, rhannu technegau wrth gynnal gweithdy a gwerthuso, ac yn cynnwys cyflwyniadau gan Disability Arts Cymru. Bydd digon o gyfle hefyd i gwrdd ag awduron eraill a staff Llenyddiaeth Cymru, ac i ofyn cwestiynau.

I archebu eich lle, cliciwch yma: gyda chinio / heb ginio. Y diwrnod olaf y gellir archebu yw dydd Iau 30 Ionawr 2020.
Gwybodaeth am y Diwydiant a Datblygiad Proffesiynol

Dyddiad:        Dydd Sadwrn 15 Chwefror 2020
Lleoliad:         Llyfrgell Ganolog Caerdydd
Pris Tocyn:      £20.00 am y diwrnod cyfan gan gynnwys bwffe ysgafn / £15.00 am y diwrnod cyfan (heb gynnwys cinio)
Iaith:                Dwyieithog

 

Bydd y diwrnod hwn yn canolbwyntio ar wybodaeth y diwydiant a datblygiad proffesiynol yn y sector llenyddiaeth. Bydd yn cynnwys cyflwyniadau gan staff Llenyddiaeth Cymru, panel cyhoeddwr (gan gynnwys cynrychiolwyr o Firefly Press, Graffeg, a Chyngor Llyfrau Cymru) a sgyrsiau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant ar sut i fod yn awdur proffesiynol. Bydd perfformiad a sgwrs gan y bardd a derbynnydd Ysgoloriaeth Awdur Llenyddiaeth Cymru, clare e. potter, yn ogystal â digon o gyfle i gwrdd ag awduron eraill a gofyn cwestiynau.

I archebu eich lle, cliciwch yma: gyda chinio / heb ginio. Y diwrnod olaf y gellir archebu yw dydd Iau 13 Chwefror  2020.
Nôl i Ar gyfer Awduron