Dewislen
English
Cysylltwch

Cynllun Nawdd Llên er Lles

Mae ein Cynllun Nawdd Llên er Lles yn cynnig cymorth ariannol a hyfforddiant i awduron ac artistiaid i ddyfeisio a chyflawni cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gwreiddiol yn y gymuned. Caiff pob prosiect ei ddyfeisio gan awdur/artist gyda grŵp arbennig mewn golwg.

Cyfranogiad mewn llenyddiaeth yw un o’n prif flaenoriaethau. Amcan Cynllun Nawdd Llên er Lles yw ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol. Ar ddiwedd pob cyfres o weithdai fe gynhyrchir allbwn sydd wedi ei ddiffinio’n glir, er enghraifft, creu pamffled barddoniaeth, monologau radio, ffilm fer a dangosiad, gwaith celf neu gasgliad o ganeuon.

Yn unol â’n Cynllun Strategol ar gyfer 2019-2022, bydd yr awduron yn gweithio gyda’r rheini sy’n uniaethu gydag un neu fwy o’r Nodweddion y Cleientiaid a Dargedir: unigolion o gefndiroedd BAME; unigolion ar incwm isel; ac unigolion gydag anableddau neu salwch (corfforol a meddyliol).

 

Prosiectau 2019

Yn dilyn galwad agored am brosiectau cymwys ym mis Mehefin 2019, mae Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi 10 o brosiectau dros Gymru yn ystod y gaeaf. Caiff y gweithgareddau eu cyflawni gan awduron ac ymarferwyr celf sydd wedi derbyn hyfforddiant Diogelu a Chyfranogi fel rhan o’r cynllun hwn.

Mae rhwng 4-6 sesiwn i bob cyfres o weithdai. Maent yn weithgareddau arloesol a chynhwysfawr ac yn cefnogi grwpiau arbennig megis carcharorion, ffoaduriaid, rhieni i fabanod a anwyd yn gynnar, a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl.

 

Ceir rhagor o wybodaeth am bob prosiect a’r awduron sy’n eu harwain isod: