Dewislen
English
Cysylltwch

15 o Anrhegion Llenyddol ar gyfer Nadolig 2020

Cyhoeddwyd Maw 8 Rhag 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
15 o Anrhegion Llenyddol ar gyfer Nadolig 2020

Mae cyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd yn gyfle gwych i ymlacio gyda llyfr da; boed chi’n rhannu eich cariad at ddarllen gyda theulu a ffrindiau, neu yn darllen i ddianc oddi wrth y dathliadau am ennyd o lonyddwch. Ar ôl blwyddyn tra wahanol o gynnal prosiectau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru, yma yn Llenyddiaeth Cymru, rydym yn edrych ymlaen at gael toriad er mwyn ennyn mwy o nerth creadigol yn barod am flwyddyn arall.

Isod rydym wedi creu rhestr o rai o anrhegion llenyddol delfrydol ein staff ni eleni. Yn ogystal â bod yn anrhegion gwych ar gyfer y rheiny ohonoch sy’n caru llenyddiaeth a darllen, maent hefyd yn anrhegion addas i’r rheiny ohonoch sy’n frwdfrydig dros gefnogi artistiaid, awduron a busnesau bychain o Gymru.

 

Tocyn Anrheg Tŷ Newydd

Tocyn anrheg yn gyfraniad tuag at encil ysgrifennu ym Mwthyn Encil Nant.

 

The Mab

Casgliad arbennig o saith stori o’r Mabinogion yw The Mab, wedi eu dylunio’n brydferth a’u hadrodd ar gyfer pobl ifanc. Bydd pob stori’n cael ei hadrodd yn y Gymraeg a’r Saesneg gan griw o awduron dawnus, ac eu dylunio’n llachar gan Max Low. Bydd pob pryniant yn cyfrannu tuag at sicrhau y bydd y llyfr, sydd yn cael ei gyllido drwy gyhoeddwr cyllid torfol Unbound, yn cael ei wireddu.

 

Cerdyn Cyfarch Geirau ein Llên Gwerin

Cerdyn cyfarch wedi ei ddylunio gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler (sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals).

 

Mae ‘na Arth Wedi Dwyn Fy Mhyjamas, Gruffudd Owen

Dyma lond llaw o gerddi gwych am yr holl bethau dwl a difyr sy’n digwydd yn ystod y nos. Casgliad o farddoniaeth ar y thema ‘Canol Nos’ gan Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru 2019 – 2021 a beirdd plant y blynyddoedd a fu, gyda darluniau gan John Lund yn cyd-fynd â chynnwys y cerddi.

 

Broken Ghost, Niall Griffiths

Caiff cymuned Gymreig ei thynnu at ei gilydd a’i chwalu gan ddarlun rhyfedd yn y mynyddoedd: ysbryd enfawr o ddynes yn arnofio dros grib. Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020. Mae Babel (Ifan Morgan Jones), Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, hefyd yn chwip o nofel sy’n haeddu ei lle ar restr Nadolig unrhyw ddarllenydd. Mae hi allan o stoc ar y we ar hyn o bryd, ond efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus o’i chanfod yn eich siop lyfrau lleol.

 

Murlun y Tŵr Dŵr – Print*

Print giclée o safon uchel yn dangos Murlun y Tŵr Dŵr gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler.

Mae’r Murlun y Tŵr Dŵr wedi ei ysbrydoli gan chwedloniaeth Cymru, ac wedi ei osod ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Drenau Rheilffordd y Great Western – strwythur rhestredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1932.

*Rydym yn cynnig 10% oddi ar yr eitem hon o siop Llenyddiaeth Cymru ar hyn o bryd.

 

Tanysgrifiad i Poetry Wales

Dyma’r anrheg perffaith i unrhyw un sy’n caru barddoniaeth: tri rhifyn o Poetry Wales y flwyddyn, a’r opsiwn o’i dderbyn yn ddigidol neu fel copi caled.

 

Just So You Know, Gol. Hanan Issa, Durre Shahwar a Özgür Uyanik

Fe archwilia Just So You Know bynciau unigryw a chyfareddol o amryw helaeth o safbwyntiau difyr fel hunaniaeth, dilead treftadaeth, iaith a diwylliant, y profiad o fewnfudo, yn ogystal â’r syniad dyrys o’r arall gan awduron Du, Asiaidd ac o gefndiroedd lleiafrif ethnig, LHDT+, niwro-amrywiol ac anabl, sy’n herio delfrydau niwro-nodweddiadol a hetero-normadol – sydd oll yn faterion nad ydynt yn cael eu trafod yn aml o safbwynt Cymreig. 

 

Print Rhithganfyddiad o Dŷ Newydd

Print wedi ei greu gan yr artist Efa Lois (Rhithganfyddiad) yn ail-ddehongli safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd Llenyddiaeth Cymru yn Llanystumdwy. Daw’r darlun bendigedig o Dŷ Newydd â detholiad o gerdd arbennig wedi ei chreu gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru – ‘Ffydd’, i nodi achlysur pen-blwydd y ganolfan yn 30 oed yn y flwyddyn 2020. Maint y print yw A3.

 

Mynd, Marged Tudur

Dyma gasgliad cyntaf y bardd Marged Tudur, sy’n trafod profedigaeth a galar yn gelfydd. Datblygwyd y gwaith gyda chymorth Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2019.

 

A Dylan Odyssey

Gan gwmpasu cyfoeth diwylliant, pobl, tirweddau a lleoliadau Cymru, mae’r traethodau llenyddol yma’n taflu golau ar fywyd a geiriau Dylan Thomas yn y llefydd a’i ysbrydolodd.

 

Dweud y drefn pan nad oes trefn, Gol. Grug Muse a Iestyn Tyne

Antholeg Y Stamp sy’n cynnwys 100 o gerddi Cymraeg gan 63 bardd cyfoes.

 

Tanysgrifiad Llyfr i Siop Lyfrau Griffin

Mae pob pecyn yn cynnwys sgwrs gydag arbenigwyr llyfrau o siop lyfrau Griffin er mwyn pennu’r dewisiadau cywir ar gyfer y derbynydd.

 

Cofiwch Dryweryn – Ffrâm*

Cafodd y graffiti enwog hwn ei beintio i dynnu sylw at orfodi trigolion Capel Celyn o’u cartrefi er mwyn creu cronfa i gyflenwi dŵr ar gyfer dinas Lerpwl. Mae graffiti Cofiwch Dryweryn bellach yn ddelwedd eiconig ac mae’r wal wedi cael ei hailbeintio sawl tro dros y blynyddoedd yn dilyn fandaliaeth yn erbyn y gofeb.

*Rydym yn cynnig 10% oddi ar yr eitem hon o siop Llenyddiaeth Cymru ar hyn o bryd.

 

Hello Friend We Missed You, Richard Owain Roberts

Nofel gyntaf deimladwy, ddofn a doniol am unigrwydd, am ffilmiau iasoer ‘dial treisiol’ ar Netflix, solipsiaeth, mewnfudwyr cefnog yn symud i ardaloedd gwledig a dysgu sut i fodoli yn y modd lleiaf poenus. Fe enillodd y nofel wobr The Guardian’s Not the Booker Prize 2020.