Her 100 Cerdd #20: Y Drefn Naturiol
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Y Drefn Naturiol
Deffrwch,
mae’r ddaear yn griddfan.
Mae’r dail wedi’u drysu.
Blodau’n agor i hadu
ffrwythau, cyn pydru’n
ara deg ar y coed
heb dyfu’n iawn.
Fe fuodd amser pan
oedd newid yn y Drefn Naturiol
yn peri gofid,
na fydde pethau’n troi,
na fydde pethau’n gweithio,
plannu, cyneafu, cneifio.
Ac aeth y pethau hynny’n angof
a throi’r drefn yn wynfyd.
Ond dywedodd neb wrth y ddaear
fod yr hen drefn wedi newid.
– Dyfan Lewis, 5.06pm