Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #21: Môr o jin

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds

Môr o jin

Does dim môr digon mawr i foddi gofidiau’r dyddiau hyn
ond jin yw’r feri thing i dynnu’r unrhyw golyn
a dod â gwên a phrofi bod ein byd yn medru dal gafael ar bethau call o hyd.

Cymysga dy wirod, achos ti’n gwbod o’r gore
bod i jin ei rin, mae’n well na the, yn well na gwin.
Cei foddi’n llawen dan donnau’r ferywen *
a pherlesmeirio ar wawr sawrus eithinen bêr, *
beth am fwrw dy flinder ar ysgwydd hael eithinen y cwrw? *

Jyst bydd yn ofalus, paid yfed gormod,
neu fe surith y melys-jin yn wermod ar dafod.

 

– Elinor Wyn Reynolds, 5.14pm

 

* enwau Cymraeg gwahanol am junpier, sef prif gynhwysyn jin

 

Mewn ymateb i gais ar Twitter:

 

Uncategorized @cy