Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #34: Dail yr Hydref

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Beth Celyn

Dail yr Hydref

Ar gyfer Nain a Taid Lleli – ateb cais am ‘Dail yr Hydref’

 

Roedd yr Hydref i’w deimlo ddiwedd Awst,
cyn i’r dail ddechrau crenshian dan droed

a chyn i’r coed droi’n sgerbydau;

cyn i’w hesgyrn pren gwpanu

goleuni’r dydd a chynnig

prydferthwch newydd

i droadau’r tymor.

– Beth Celyn, 8.42 pm
Uncategorized @cy