Dewislen
English
Cysylltwch

Cyswllt Datgyswllt | Ffilm #5 Plethu/Weave

Cyhoeddwyd Iau 22 Hyd 2020 - Gan Elan Grug Muse
Cyswllt Datgyswllt | Ffilm #5 Plethu/Weave

Dyma flog gan Elan Grug Muse a fu’n cydweithio gyda’r ddawnswraig Shakeera Ahmun i greu Cyswllt | Datgyswllt, fel rhan o brosiect traws gelfyddyd digidol Llenyddiaeth Cymru a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Plethu/Weave. 

Creu Cyswllt 

‘Helo, can you hear me?’  

Pam fod pob sgwrs Zoom yn dechrau fel ymdrech i gyfathrebu rhwng dau ofodwr? 

‘So, ‘da ni’n cydweithio ar y prosiect ‘ma. Sgen ti unrhyw syniadau?’ 

Mae’n anodd ymlacio dros Zoom, anodd creu y gofod anffurfiol yna sydd ei angen i siarad a sgwrsio. Mae un llygad ar y cloc, un llygad ar beth bynnag sy’n digwydd oddi ar y sgrin. Heb fod yn yr un gofod corfforol, anodd cael y pwyntiau cyfeirio cyffredin hynny – ansawdd y coffi, y traffig ar y ffordd, y tywydd. Mae pawb yn ei swigen fach ei hun, a sgrin y ffôn yn ffenest ddigon cyfyng i estyn trwyddi.  

Heblaw am Covid-19, wrth gwrs. Mi all pawb siarad wast am Covid-19.  

‘Sut mae pethe acw?’ 

‘Glywest ti am yr hwn-a-hwn?’ 

‘A be amdan y peth-a’r-peth?’ 

O drafod Covid y daeth y syniad ar gyfer ein prosiect, yn y pen draw. Trafod pobl yn llwyddo i adael perthnasau treisgar, a straen Covid ar berthnasau; ond hefyd yr hanesion am bobol yn dod at ei gilydd: i gefnogi cymdogion, i fod yn gefn.  

Nid fod y prosiect yn ymateb i Covid yn benodol. Dilyn sgwarnog i sôn am berthnasau yn fwy eang wnaethon ni yn y pendraw, am sut mae pobol wedi eu clymu at ei gilydd, weithiau mewn ffyrdd sy’n cryfhau, ond yn aml iawn mewn ffyrdd sy’n caethiwo, a maglu. Cymhlethdodau ein cysylltiadau, a phwysigrwydd dat-glymu, fel modd weithiau i sicrhau dyfodol perthynas, neu i ddianc rhag perthynas docsig, boed hynny ar lefel blatonaidd neu ramantus.  

Dyna oedd gen i mewn golwg wrth ysgrifennu’r gerdd felly, a’i recordio, er mwyn i Shakeera, sydd ddim yn siarad Cymraeg, glywed sŵn y geiriau i gyd-fynd â’r cyfieithiad wnes i ar ei chyfer hi.  

Ac wedyn, aros, i weld sut y bydde hi’n mynd ati i ddehongli y gwaith. Fel perthynas sawl un efo gwahanol ffurfiau o gelfyddyd nad ydyn nhw’n gyfarwydd efo nhw, dwi’n euog o ddweud ‘nad ydw i’n deall dawns’ – euog o gymryd mai ‘deall’ yw’r bwriad. Drwy ddehongliad Shakeera, ymddangosodd strwythur y ddawns i mi yn beth llawer agosach at y cyfarwydd, sef barddoniaeth. Yr oedd pob saethiad o’r fidio, a’r cyfuniad o symudiadau oddi mewn i bob saethiad yn teimlo fel llinell o farddoniaeth, a’r toriad rhwng pob saethiad i mi yn cael yr un effaith a thoriad llinell. O gyfosod y ddau, yr oedd toriadau Shakeera weithiau yn syrthio yn yr un man a fy rhai i yn y gerdd; dro arall, roedden nhw’n goferu, neu yn torri llinell ar ei chanol mewn man annisgwyl, newydd − toriadau oedd yn rhoi gwedd newydd i’r gerdd. Fentra i ddweud, fel cerdd dant? 

Mwynhewch y ffilm fer gan Grug a Shakeera yma:

Uncategorized @cy