Dewislen
English
Cysylltwch

Edrych yn ôl ar Her 24:24 Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth

Cyhoeddwyd Mer 7 Hyd 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Edrych yn ôl ar Her 24:24 Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth

I ddathlu Diwrnod Barddoniaeth eleni (2020), bu Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â’r cylchgrawn a’r fenter gydweithredol greadigol, Y Stamp, i gynnal Her 24×24. Dros gyfnod o bedair awr ar hugain, daeth campweithiau celfyddydol i mewn fesul un “fel anrhegion” yn ôl Esyllt Lewis, un o’r trefnwyr, i lenwi gwefan Y Stamp. Crëwyd pob darn o gelfyddyd gan artist gwahanol o Gymru, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu dethol drwy alwad agored.

Mewn cyfnod anodd i’r celfyddydau, gyda theatrau, orielau a chanolfannau ar gau a pherfformiadau ar stop, dyma beth oedd arbrawf unigryw. Defnyddio platfform rhithiol i greu swigod creadigol bychain, blas o’r hyn sy’n bosib, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddi-iaith. Pob darn yn cael ei basio ymlaen i’r artist nesaf yn ysbrydoliaeth, gan greu cadwyn.

Nid criw o feirdd yn unig oedd yn cyfansoddi eleni fel gyda’r Her 100 Cerdd arferol, ond unigolion yn creu ym mhob celfyddyd: cerddoriaeth a chaneuon, dawns, darluniau, gludwaith, ffotograffau a cyfuniad o’r disgyblaethau yma mwy. Fel mae prosiect cerdd a dawns Plethu Llenyddiaeth Cymru a’r Cwmni Dawns Cenedlaethol wedi ei ddangos yn ddiweddar, mae’r celfyddydau mwyaf annisgwyl yn gallu asio. A fel dywed Iestyn Tyne, un arall o’r trefnwyr, ar y podlediad a recordiwyd i gloriannu diwedd yr Her wrth ystyried beth ydi barddoniaeth: “yn ôl diffiniad rhywun mae bob un o’r 24 cyfraniad yma’n ryw fath o gerdd”.

Pwy sydd i’w ddweud nad darlun yn y meddwl yw cerdd, neu mai stori sy’n symud ydi dawns? Â ninnau ar hyn o bryd yn gorfod gweithio ein celfyddyd mewn gofodau newydd, weithiau’n rhithwir, heb derfynau arferol ein llwyfannau – efallai mai dyma’r amser perffaith i arbrofi a gwthio ffiniau; i gydweithio a chreu cymunedau o unigolion creadigol all siarad ag un llais yn eu ffyrdd unigryw eu hunain.

Er na fûm i ar fy nhraed drwy’r nos fel y trefnwyr, Iestyn ac Esyllt, roeddwn i fel petawn i mewn perlewyg bron wedi mynd i ddychmygu pob un o’r artistiaid yn byw eu bywydau fel hyn bob dydd (a drwy’r nos), yn creu yn ddi-stop a’n bod ni ond yn cael codi’r llen i weld dau funud o’u gwaith. Ydi artistiaid fyth yn cysgu? Wrth gwrs eu bod nhw: y perygl mewn gor-ramantu’r celfyddydau ydi y gallwn anghofio fod rhaid wrth is-adeiledd a chynhaliaeth i awduron.

Wrth geisio dadansoddi themâu yng ngwaith yr Her 24:24 fe sylwais ar dipyn o unigrwydd. Digon dealladwy wrth i ni wynebu ail glo mawr mewn sawl sir yma yng Nghymru yn sgil y pandemig. Ond wedi daeth rhywbeth cryfach drwy’r gwaith drwy edrych ar Lauren Connelly yn rhedeg allan o floc o fflatiau i’r awyr iach, ar Elan Elidyr yn dawnsio ar stryd dinas yng nghrombil y nos, a darllen llif meddwl di-dor Dylan Huw – sef rhyddid. Mae posibiliadau mewn rhyddid – y rhyddid i fod yn greadigol heb ffiniau, i deithio drwy eich celf, i ddod â phrydferthwch i’r byd.

Gallwch fwynhau cynnwys y 24 awr drwy ymweld â gwefan Y Stamp: www.ystamp.cymru – a gallwch ddod o hyd i lawer o’r artistiaid ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch gysylltu â nhw os ydych chi wedi mwynhau darn penodol o gelf.

Leusa Llewelyn

Pennaeth Tŷ Newydd