Dewislen
English
Cysylltwch

Fy wythnos gyntaf fel Bardd Plant Cymru – gan Gruffudd Owen

Cyhoeddwyd Gwe 18 Hyd 2019 - Gan Gruffudd Owen
Fy wythnos gyntaf fel Bardd Plant Cymru – gan Gruffudd Owen

Gyda dechrau’r tymor ysgol newydd, fe ddechreuodd gwaith Gruffudd Owen fel Bardd Plant Cymru go iawn. Dyma ddyddiadur ei wythnos gyntaf o weithdai:

 

23/09/18

Ysgol Pentreuchaf

FY YSGOL GYNTAF! Plant brwdfrydig sydd yn llawn syniadau gwych. Roeddwn i wrth fy modd efo un gymhariaeth yn enwedig:

“Mor flin â Tincar sydd wedi colli ei sbectol mewn seilij”

Roedd y gweithdy yn digwydd cyd-redeg â’r union amser roedd tim rygbi Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd, felly mi benderfynom ni gyd-ysgrifennu Haka er clod i’w capten.

“Alun Wyn, Alun Wyn, Alun Wyn Jones,

Fo sydd yn gwneud i bawb lenwi eu trôns!”

Lot o hwyl.

 

Ysgol Brynaerau, Pontllyfni

Mi lwyddais i fynd ar goll yn racs ar fy ffordd i weld plant blwyddyn 3 a 4 Ysgol Brynaerau. Pwy wyddai bod ysgolion yn cuddio mewn cilfachau mor anghysbell ar hyd a lled Cymru fach!?

Roedd y plant wrth eu boddau yn disgrifio eu hoff fwydydd. Hwyrach bod y plant yma’n byw yng nghanol nunlla, ond mae nhw dal yn hoffi McDonald’s! Yma hefyd y bu rhai o’r plant yn ceisio dyfalu fy oedran. Penderfynodd un fy mod i yn bendant yn hŷn na’i rieni ac fe fentrodd fy mod i’n 54. Ar ôl i mi ei sicrhau ei fod o 20 mlynadd dda allan ohoni, dyma fo’n ebychu: “Ond mae gwynab chdi mor rincli!” Boi da.

 

24/09/19

Ysgol Penysarn

Drwy’r gwynt a’r glaw heddiw i berfeddion Sir Fôn a blwyddyn 3 a 4 Ysgol Penysarn. Thema’r dosbarth y tymor hwn ydi ‘Y Chwedlau’ ac fe gawsom ni lot fawr o hwyl yn disgrifio teisen briodas hyfryd (ond trasig) Rhys a Meinir, a banana ddu, flewog llawn cynrhon Branwen ferch Llyr (peidiwch â gofyn).

Clod enfawr i’r ferch fach oedd newydd symyd i’r ynys o Loegr ond a luniodd gerdd fer am y synhwyrau mewn Cymraeg perffaith. Am wariar!

 

Ysgol Llangefni

Tipyn o newid gêr yn y pnawn wrth i mi neidio o weithio gyda phlant blwyddyn tri a phedwar i ddisgyblion blwyddyn 8. Dyma griw difyr a deallus a gafodd lot o hwyl yn llunio limrigau a thelynegion atgofus. Roedd rhai yn rhy swil i ddarllen eu gwaith o flaen y dosabarth ond fe gefais gyfle i ddarllen dros eu cerddi ar ddiwedd y wers, a gall ysgol Llangefni frolio bod ganddyn nhw feirdd o safon yn eu rhengoedd!

 

25/09/19

Ffederasiwn Cysgod y Foel – Bro Tryweryn a Ffridd y Llyn

Diwrnod hir o yrru heddiw, rhwng Pwllheli a Chaerdydd via Bala a Llanfyllin. Roedd plant blwyddyn 5 a 6 Ysgol Ffridd y Llyn yn croesawu eu cyfoedion o Ysgol Bro Tryweryn i rannu gweithdy efo nhw. (Lladd dau dderyn, hynna bedio.)

Roedd ‘na lot o gymariaethau gwych o fyd amaeth gan y criw yma, oedd ddim yn syndod gan fod tua chwarter ohonynt wedi eu magu ar ffermydd. Plant Penllyn hefyd oedd yr unig blant yr wythnos hon oedd yn gwybod beth oedd llus. Sgandal!

Yn ysgol Ffridd y Llyn hefyd y dois i ar draw y ffenomenon rhwystredig o fwrdd cyfan o genod blwyddyn chwech yn gwrthod yn lân â rhannu eu gwaith gwych o flaen y dosbarth. Unwaith mae un yn gwrthod, mae nhw i gyd yn disgyn fel dominos a dyna Fardd Plant druan yn gorfod llenwi deg munud ola ei sesiwn yn adrodd cerddi gwirion o’i waith ei hun!

 

Ysgol Llanfyllin

Wrth barcio mewn siop yn Llanfyllin mi welais y creadur prin hwnnw sef yr arddegun Bexitgar. Bachgen 16 yn ei deud hi wrth ei gyfeillion ffasiwn arwr ydi Boris Johnson ac “nad oedd gan y Gor-uchel lys unrhyw fusnes yn ymyrryd fel hyn”. Ma’r swydd hon yn agoriad llygaid…

Mae Blwyddyn 8 ffrwd Gymraeg yr ysgol yn griw sgwrslyd, taer a limrig-gar, ac mi gawson ni lawer o hwyl yn trafod cerddi, ysgrifennu limrigau, heicws a thelynegion. Roedd un delyneg a oedd yn ymateb i ddarn o gerddoriaeth yn arbennig. ‘Big-Yp’ o ddifri hefyd i’r hogyn wnaeth lwyddo i lunio limrig, telyneg, a heicw am ei annwyl dractor. Mae hynny’n dalent. Sgwenwch am yr hyn sydd bwysicaf i chi!

 

Edrych ymlaen at y gweithdai nesa’ rwan! Mae’r dyddiadur yn llawn dop tan y Nadolig, gyda chyfres arall o weithdai yn y gogledd a’r canolbarth ar ddechrau mis Hydref, yn y de a’r gorllewin ar ddiwedd y mis , ac yn Wrecsam ym mis Tachwedd. Cofiwch gysylltu yma os ydych am wneud cais am ymweliad.

Bardd Plant Cymru