Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #100: Y Gerdd Olaf

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Y Pedwar Bardd

Pedwar Gair o Gyngor

Dyma fy nghyngor i feirdd y byd;
camwch i’r adwy,
ewch amdani.

Mae gwaeth nag ysgrifennu llinell sâl
neu ddwy a’u rhannu.
Gallesid tywallt goffi poeth
dros grys
mae hynny’n waeth
na gorfod ysgrifennu llinnell ar frys.

Ac felly, feirdd ddihyder, dywedaf i chi:
gall bawb ysgrifennu.

– Dyfan Lewis, 11.54 am

 

Tasgwch eich meddyliau’n
ddiferion o inc ar ddalen,
peidiwch da chi a pheidio,
rhowch syniad mewn ysgrifen.

– Matthew Tucker, 11.55 am

 

Peidiwch â bod ofn y dudalen wag,
sgriblwch drosti a’i rwygo
cyn hyd yn oed mentro gyda beiro!

 

Ac unwaith i chi sylwi mai dim ond
papur yw porth eich pryder,
ceisiwch ffeindio’r hyder
i ddweud: rhywbeth!
Unrhyw beth – dio’m otsh!

Fedrith o edrych fel hyn
neu fel hyn
neu fel hyn.

Dio’m hyd yn oed yn gorfod gwneud

syn –                                               nwyr.

Jysd mwynhewch y broses
o greu er mwyn creu,
ac efallai, wrth geisio,
mi ffeindiwch drysor eich dweud,
allwedd eich creadigrwydd
a egyr pyrth eich posibilrwydd.

– Beth Celyn, 11.57 am

 

Fardd,

paid â bod yn ddierth i seiniau meddwol geiriau

cadw nhw’n glos – anwyla nhw yn agos.

Dal nhw yng nghledr llaith dy law

sylwa ar eu traw,

pob sain, pob sill, pob lledrith –

rho nhw’n agos at dy glust

i wrando sŵn eu sibrwd

pob clec, pob ell, pob hiss.

A chadwa llyfr bach, da ti, er mwyn gosod pob perl a glywi

ar ddalen i’w trysori,

achos, fardd, dyn a ŵyr pa bryd ddaw’r amser i’w troi nhw’n gerddi.

– Elinor Wyn Reynolds, 11.59 am

Uncategorized @cy