Her 100 Cerdd #18: Mawl i Redwyr Hanner Caerdydd
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Mawl i Redwyr Hanner Caerdydd
Cerdd i ddymuno’n dda i holl redwyr Hanner Marathon Caerdydd y penwythnos yma. Bydda i’n un ohonynt!
Daw’r holl fisoedd o boen ynghyd
ger y llinell wen ar ddydd Sul!
Rhedwch, teimlwch y tân
wrth hyrddio’n eich blaenau
dros darmac ein prifddinas.
Hon yw’r seremoni, diwedd y daith,
chwi a haeddwch yr holl ddathlu!
Ymhyfrydwch yn eich chwys,
anadlwch pob cam,
gwenwch – mae ‘na gamera’n gwylio!
Cadwch fynd, chwi arwyr o bob oed,
trwy slog y milltiroedd.
Ond dewch, codwch eich pennau fry,
y diwedd sy’n eich haros chi!
– Matthew Tucker, 4:37 pm