Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #19: Mamiaith

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Beth Celyn

Mamiaith

 

Ai’r Gymraeg y byddi di’n ei wisgo
fel arfwisg am dy groen?

 

Ai treigliadau a dry ar dy dafod

pan y byddi di mewn poen?

 

Ai’r gystrawen gyfarwydd gysura

wrth i ti sugo dan sgyrsiau llwm?

 

Ai dy famiaith a goda dy galon

pan fydd y cyfan yn teimlo’n rhy drwm?

 

Ond ai byrdwn a deimli wrth ofyn

am gael mynegi drwy’r famiaith hon?

 

Ac ai pryder a bwysa arnat

wrth faglu dros eiriau anfodlon?

– Beth Celyn, 4:46 pm

 

Uncategorized @cy