Her 100 Cerdd #26: O’r Dyfnderoedd
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
O’r dyfnderoedd
Cerdd i’m dyweddi, Ebony, am ei chefnogaeth a’i hanogaeth wrth imi ddygymod â chyfnod o straen.
Di-long oeddwn mewn trobwll o fôr
a suddo’r oeddwn i’r dyfnderoedd.
Ni welir ond y duwch yn agosáu,
pob dafn o ddŵr yn fy nghrogi
ac yn fy nhynnu i lawr, i lawr…
Nes daeth un, rhyw angel dlos,
i afael ynof, a’m tynnu,
a’m codi yn ôl tua’r goleuni,
y dafnau’n llacio,
f’anadl yn dychwelyd imi
yn ei mynwes gynnes hi,
hi â’i chalon a choeliodd ynof
wrth iddi hi fy llywio’n fy ôl
yn ofalus i’r lan.
– Matthew Tucker, 6:33 pm