Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #27: Enoc Arthur yn syllu ar Gymru drwy sbienddrych hud

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Dyfan Lewis
Her 100 Cerdd #27: Enoc Arthur yn syllu ar Gymru drwy sbienddrych hud

Enoc Arthur yn syllu ar Gymru drwy sbienddrych hud

’Mond fi sy’ ’ma, nawr.

Odd lot o sŵn a swae

am bethe, lot o fynd a dod

un adeg, pan oeddwn fachgen.

 

A daeth dim un newid mawr,

dim un eiliad union lle newidiwyd pethe

a’m gadael

’mond y newid araf

wnaeth ddod fel mestyn dydd.

 

’Mond fi sy’ ’ma, nawr.

Y gweddill – alla i ddim

â siarad yn iawn ar eu rhan

na dweud os oeddent yma erioed, go iawn.

 

Fe’u hamsugnwyd, eu troi’n bethau eraill

digon hardd,

ac mae’u sŵn yn parhau yn fy ngho’.

 

– Dyfan Lewis, 7.13pm

Uncategorized @cy