Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #29: Y goeden arian

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds
Her 100 Cerdd #29: Y goeden arian

Y goeden arian

Ac wele, goeden arian hardd
yn dwyn ffrwyth o’r tir hesb
fel hud a lledrith, neu chwedl anodd ei dirnad.
Coeden orwych yw, un a changhennau cydnerth ydyw,
yn drymlwyth o arian a golud,
yn drewi’n ffein o addewid bywyd brasach
yn anrheg i bobl ein byd.
Dacw flodau pert a’u petalau punnoedd yn disgleirio,
ar bob cangen mae decpunnoedd yn deilio
a diferion rif y gwlith o ddigonedd blith.
Dacw hi, ein hachubiaeth,
a’i boncyff praff torïaidd
yn gysgod cryf a chadarn drosom ni i gyd.
Wel, diolch byth am hynny,
mae’r gaeaf ar ein gwarthaf
a gwynt gerwin Brec-shit-waith
yn chwythu dros y wlad
whislo o gwmpas ein pigyrnau
gan hisian bod siop yr ynysoedd hyn ’di cau.

– Elinor Wyn Reynolds, 7.27pm

Uncategorized @cy