Her 100 Cerdd #30: Glas-fyfyrwyr
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Glas-fyfyrwyr
Cerdd i groesawu’r glas-fyfyrwyr newydd i Adran Gymraeg, Prifysgol Abertawe, ar gais Dr
Hannah Sams.
Dewch atom yn waedd hyd noddfa ein llên,
lle tesgir trosiadau gyda phob gwên,
dewch atom i’r Mwmbwls, nid hir yw’r daith,
cewch ddysgu tan olwg ein meistri iaith,
dewch atom yn dalog, dewch lond eich dewrder,
mae yma le i bob un fagu hyder,
llenorion, ieithyddion a chyfreithwyr lu,
cewch amryw o sgiliau mewn adran mor gu!
– Matthew Tucker, 7.35pm