Her 100 Cerdd #42: ‘Wales would never vote to leave UK’
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
‘Wales would never vote to leave UK’
Cerdd yn ymateb i ddatganiad Alun Cairns uchod ar glawr y Western Mail (1/10/19)
T’mod beth Alun, ti’n llygad dy le!
Wast o beth yw’r holl orymdeithiau
lle bu’r Cymry’n eu miloedd
yn martsio’n danbaid trwy strydoedd
ein trefi a’n dinasoedd,
y ffyliaid yn ffrwydro’u gwladgarwch
i bawb gael ei gweld ym mhobman.
Na chwaith yr holl gynghorau
a fu’n datgan eu hawydd
i godi’r ddraig uwch eu cymunedau,
na’r ffaith fod fwyfwy o Gymry’n
bwrw’u croesau dros Blaid Cymru!
Breuddwydwyr ffôl ydyn ni
sy’n credu’r gwrthwyneb!
Ddaw ddim byd o hynny sbo’
oherwydd na fydd Cymru fyth
yn datgan ei hannibyniaeth!
– Matthew Tucker, 10.21 pm