Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #45: Mentra Gwen

Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds

Mentra Gwen

 

Chei di ddim yn y bywyd hwn oni bai bo’ ti’n mentro,

os nad achubi di ar bob cyfle,

ddaw dim ohono

os na wnei di drio.

Ond wedi geiriau dewr llawn brafado … go iawn …

mae’n siŵr y gwnei di bwyllo … y gwnei betruso …

aros … pendroni …

achos …

mae’r galon yn curo’n gynt

y tymheredd yn cynyddu,

bydd d’ysgyfaint yn dwyn dy wynt

a’r chwys yn cronni

ac fe deimli’n hollol allan o dy ddyfnder …

Bryd hynny, ga i gynnig cyngor i ti?

Anadla …

a bwria i’r dwfn … nofia … dal ati …

achos os nad ti, yna pwy?

– Elinor Wyn Reynolds

 

Uncategorized @cy