Her 100 Cerdd #46: Geiriau Diflanedig
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Geiriau Diflanedig
Yn ymateb i gais Simon Fisher (@lamerch) am gerdd i Mererid Hopwood a chyfieithwyr
Rhain yw Sherlock Holmes’s ein llên,
yn feistri ar eiriadur a thesawrws,
yn canfod eu geiriau â’u chwyddwydrau
ymysg ‘dalennau eang eu bywoliaeth.
Crefftwyr cain ŷnt hefyd, oherwydd
mae ‘na grefft wrth ddewis a dethol
pa eiriau sy’n gweddu i ystyr a sain,
a rhythm a phwrpas y gwreiddiol?
Er, nid hynny yw’r diwedd, o na!
Mae na’ fwy nag un ffordd o gyfieithu!
Beth am lythrennol? Neu ystyrol?
Neu hyd yn oed gyfieithu creadigol?
Rhaid diosg ein hetiau i’r crefftwyr hyn
sy’n ymroi’n oll er ein deall ni!
– Matthew Tucker, 11:05 pm