Her 100 Cerdd #47: Rhedynen yn datblygu o’i gwlwm
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Rhedynen yn datblygu o’i gwlwm
Yn llawnder amser daw’r dwrn gwyrdd tyner
i agor fel cledr llaw
ar lawr y wig
yng nghysgod ceseiliau’r coed.
Un rhedynen frau fel bys wedi’i blygu’n grycymalog
yn llacio’i hun, sythu
a phwyntio tua’r awyr.
Y rhedynen fechan frau, yn un o lawer
sy’n taenu ei hun fel clustogau lês ar hyd gwrlid y dyffryn.
Ond ddim eto.
– Elinor Wyn Reynolds, 11:13 pm