Her 100 Cerdd #51: Ffynnon Ddofn
Cyhoeddwyd Mer 2 Hyd 2019
Ffynnon Ddofn
Ar gais Tomos Dafydd
Os ar goll
os yw’r awen ‘di mynd
tro at yr odl,
mae’n rial gwd ffrind.
Pryd arall basai gair fel bwbach
yn arwain mor dwt at fustach
neu gadach
neu gawlach
am hynny
dyna ydy hwyl odli,
gweud pethe sili
a joio byw.
– Dyfan Lewis, 11:53 pm