Her 100 Cerdd #55: Coffi
Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019
Coffi
Mae gan bob un eu defod od
o sut i drin y ffa du’n
hylif i’n hadnewyddu.
Y gollwng, y berwi, a’r gwasgu,
maent i gyd yn gweddu’r ffa,
ac mae blasu ffrwyth y ddefod
o hyd yn deimlad da.
– Dyfan Lewis, 0.50 am