Dewislen
English
Cysylltwch

Her 100 Cerdd #56: Waliau Sychion

Cyhoeddwyd Iau 3 Hyd 2019 - Gan Elinor Wyn Reynolds

Waliau Sychion

Ar draws y wlad, fel peswch llwyd o lwch
gwythiennau gweithwyr,
fe dyfodd waliau, map o gaerau,
a luniwyd gan sawl waliwr dygn dienw
sydd erbyn hyn wedi hen farw
ond a adawodd eu llofnod fel craith
yn y milltiroedd cerrig sychion maith,
clec ar ôl clec a dyfal donc yn diasbedain,
pentwr ar bentwr celfydd
yn pwyso’n berffaith ar ei gilydd
i wrthsefyll pob tywydd
i dyfu cen a britho’n urddasol
i gysgodi anifail a dyn rhag glaw llorweddol
a chadw’r un ddafad goll yn glyd yn ei chesail.
Y we lwyd sy’n cadw’r caeau ynghyd
y cadernid llwyd sydd yma o hyd.

– Elinor Wyn Reynolds, 0.58 am

Uncategorized @cy